Aditi

Aditi
Enghraifft o'r canlynolDevi, Hindu deity Edit this on Wikidata
Rhan oSaraswati Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Duwies Hindŵaidd yr awyr, ymwybyddiaeth, y gorffennol a'r dyfodol, a ffrwythlondeb yw Aditi (Sansgrit: अिदती - "diderfyn", "tragwyddol"). Hi yw mam y duwiau oll (gweler Agni, yr Adityas, a'r rishi Kashyapa).

Cyfeirir at y dduwies Aditi bron i wythdeg o weithiau yn emynau'r Rig Veda, ond erys ei gwir natur yn annelwig yn y gwaith hwnnw. Cyfeirir ati gan amlaf yng nghwmni duwiau a duwoesau eraill ac ni cheir emyn iddi hi yn unig. Nid yw'n cael ei huniaethu ag unrhyw un elfen neu agwedd arbennig ar natur, fel y duwiau eraill (e.e. Agni, duw'r tân). Ond gellir dweud ei bod yn cynnal y ddaear a bywyd ei hun, ac yn ffrwythloni'r ddaear

Pwysleisir ei ffrwythlondeb. Mae hi'n fam i'r deuddeg Aditya. Cysylltir y duwiau hyn, a arweinir gan Varuna, â thragwyddoldeb; tyfodd eu rhif o saith i ddeuddeg ac maent felly yn cynrychioli arwyddion y Sidydd hefyd. Dywedir hefyd mai Aditi yw mam y duw mawr Indra, yn fam brenhinoedd y ddaear, ac yn fam i'r duwiau hefyd. Ni roddir cymar i Aditi yn y Rig Veda.

Gwelir yn y dduwies hon agwedd fenywaidd ar fytholeg y cyfnod Vedig, a ddominyddir fel arall gan dduwiau grwywaidd grymus. Y tebyg yw fod Aditi yn agwedd ar y Fam-Dduwies sy'n cynnal popeth byw.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search