![]() | |
Enghraifft o: | grŵp ethnig ![]() |
---|---|
Math | Y Galiaid ![]() |
![]() |
Roedd yr Aedui (Lladin Aedui neu Haedrui) yn llwyth Celtaidd a drigai yn yr ardal rhwng Afon Saône ac Afon Loire, yng Ngâl (Ffrainc heddiw).
Hen gaer Bibracte oedd eu prifddinas, yn ôl pob tebyg. Ochrasant â Vercingetorix yn ei frwydr yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig. Ar ôl i Iŵl Cesar eu gorchfygu daeth eu tiriogaeth lwythol yn rhan o dalaith Gallia Lugdunensis
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search