Awen

Yr Awen yw ysbrydoliaeth farddol yn y traddodiad barddol Cymraeg. I ryw raddau mae'n cyfateb i'r muse clasurol ac yn perthyn i draddodiadau cyffelyb a geir gan bobloedd Indo-Ewropeaidd eraill.

Roedd y beirdd Rhufeinig fel Ofydd yn cyfeirio'n aml at yr Awen yn eu cerddi. Dyma Ofydd yn yr Ars Amatoria er enghraifft:

Est deus in nobis et sunt commercia caeli:
Sedibus aetheritus spiritus ille venit.
('Y mae duw ynom, ac ymwneud â'r nefoedd:
O'r trigfannau fry y daw'r ysbrydoliaeth honno)

Mae Nennius yn cyfeirio at fardd cynnar o'r enw Talhaearn Tad Awen yn ei Historia Brittonum. Cyfeiria Gerallt Gymro at yr awenyddion, beirdd neu broffwydi a oedd yn datgan daroganau dan ysbrydoliaeth yr Awen.

Roedd yn arfer gan y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd gyfarch yr Awen ar ddechrau cerdd, naill ai'n uniongyrchol neu i'w gofyn fel rhodd gan Dduw. Yn aml fe'i cysylltir â phair Ceridwen, ffynhonnell ysbrydoliaeth a gwybodaeth y Taliesin chwedlonol. Er enghraifft:

'Cyfarchaf i'm Rhên cyfarchfawr awen,
Cyfrau Cyridfen, rwyf barddoni,
Yn null Taliesin yn nillwng Elffin.'

(Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch), c. 1173-1220)


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search