Blaen-gwrach

Blaen-gwrach
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,141, 1,071 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,466.21 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.734°N 3.6406°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000602 Edit this on Wikidata
Cod OSSN868052 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auCarolyn Harris (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Blaen-gwrach,[1] hefyd Blaengwrach.[2] Saif ar lan ddwyreiniol afon Nedd, i'r gogledd-ddwyrain o Resolfen. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,148.

Mae'r ardal yn un fryniog, yn cynnwys Mynydd Resolfen (383 medr), Mynydd Pen-y-Cae (573 m) a Chraig-y-Llyn (600 m). Mae dwy ran i'r pentref, Blaen-gwrach a Cwm-gwrach, ond yn aml defnyddir Cwm-gwrach am y pentref a Blaen-gwrach ar gyfer yr ardal ehangach.

Ceir olion o gangen o Gamlas Nedd yma, ac roedd gwaith haearn Penallt ar agor rhwng 1839 ac 1854. Roedd capel Anghydffurfiol cynnar yma, a sefydlwyd yn 1662; troes yn achos Undodaidd yn 1772 a chaeodd yn 1878.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[4]

  1. Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru; Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 81; a "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 30 Hydref 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  4. Gwefan Senedd y DU

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search