Deugraff

Ll yw un o ddeugraffau'r Gymraeg

Pâr o lythrennau a ddefnyddir mewn orgraff iaith yw deugraff. Gall ddeugraff gynrychioli naill ai un ffonem (sain arbennig) neu ddilyniant o ffonemau sydd ddim yn cyfateb at werthoedd arferol y ddwy lythyren yn gyfunol.

Yn aml defnyddir deugraff ar gyfer ffonem na all gael ei gynrychioli gan un lythyren yn unig yn orgraff yr iaith honno, megis ch yn cynrychioli /χ/ yn y Gymraeg.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search