![]() Gwyddonwyr yn cynnal arolwg poblogaeth a rhywogaeth drwy ddefnyddio offer electro-bysgota | |
Enghraifft o: | techneg bysgota ![]() |
---|---|
![]() |
Modd o bysgota yw electro-bysgota sydd yn defnyddio trydan cerrynt uniongyrchol sy'n llifo rhwng cathod ac anod suddedig. Mae hyn yn effeithio symudiant y pysgod, fel eu bod yn symud tua'r anod, lle gellir eu dal.[1]
Mae electro-bysgota yn ddull arolwg gwyddonol cyffredin er mwyn samplu poblogaethau pysgod i bennu eu nifer, dwysedd a'r rhywogaeth. Pan gaiff ei berfformio'n gywir, nid yw electro-bysgota yn arwain at niwed parhaol i bysgod, sy'n dychwelyd i'w stad naturiol mewn llai na dwy funud ar ôl cael eu dal.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search