Gor-ecsploetio

Gor-ecsploetio
Cafodd stociau o Penfras|benfras eu gor-ecsploetio'n ddifrifol yn y [[1970au a’r 1980au, gan arwain at eu cwymp sydyn yn 1992.
Mathexploitation of natural resources Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gor-ecsbloetio, a elwir hefyd yn orgynaeafu, yn cyfeirio at gynaeafu adnodd adnewyddadwy nes ei fod yn peri i'r peth hwnnw, neu'r rhywogaeth honno fod yn brin neu wedi'i difodi.[1] Gall gor-ecsbloetio parhaus arwain at ddinistrio'r adnodd, gan na fydd yn gallu ailgyflenwi. Mae'r term yn berthnasol i adnoddau naturiol megis dyfrhaenau dŵr, porfeydd a choedwigoedd, planhigion meddyginiaethol, stoc pysgod a bywyd gwyllt arall.

Mewn ecoleg, mae gor-ecsbloetio'n disgrifio un o'r pum prif weithgaredd sy'n bygwth bioamrywiaeth fyd - eang.[2] Mae ecolegwyr yn defnyddio'r term i ddisgrifio grwpiau sy'n cael eu cynaeafu ar gyfradd anghynaliadwy, o ystyried eu cyfraddau marwoldeb naturiol a'u gallu i atgenhedlu. Gall hyn arwain at ddifodi'r boblogaeth. Mewn bioleg cadwraeth, mae'r term yn cael ei ddefnyddio fel arfer yng nghyd-destun gweithgaredd economaidd dynol sy'n cynnwys cymryd adnoddau biolegol, neu organebau, mewn niferoedd mwy nag y gall eu poblogaethau ei wrthsefyll.[3] Mae'r term hefyd yn cael ei ddefnyddio a'i ddiffinio ychydig yn wahanol mewn pysgodfeydd, hydroleg a rheoli adnoddau naturiol.

Fodd bynnag, o'i wneud yn iawn, gall gor-ecsploetio fod yn gynaliadwy, fel y trafodir isod yn yr adran ar bysgodfeydd. Yng nghyd-destun pysgota, gellir defnyddio’r term gorbysgota yn lle gor-ecsbloetio, yn ogystal â 'gorbori' wrth reoli stoc, 'torri gormod o goed' mewn rheoli coedwigoedd, 'gorddrafftio' wrth reoli dyfrhaenau, a rhywogaethau mewn perygl wrth fonitro rhywogaethau. Nid yw gor-ecsbloetio yn weithgaredd sy'n gyfyngedig i fodau dynol. Gall ysglyfaethwyr a llysysyddion a gyflwynir, er enghraifft, or-ecsploetio'r fflora a'r ffawna brodorol.

  1. Ehrlich, Paul R.; Ehrlich, Anne H. (1972). Population, Resources, Environment: Issues in Human Ecology (arg. 2nd). W. H. Freeman and Company. t. 127. ISBN 0716706954.
  2. Wilcove, D. S.; Rothstein, D.; Dubow, J.; Phillips, A.; Losos, E. (1998). "Quantifying threats to imperiled species in the United States". BioScience 48 (8): 607–615. doi:10.2307/1313420. JSTOR 1313420. https://archive.org/details/sim_bioscience_1998-08_48_8/page/607.
  3. Oxford. (1996). Oxford Dictionary of Biology. Oxford University Press.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search