Gwrthocsidydd

Model gofodol o glwtathion, metabolyn gwrthocsidol. Mae'r sffêr melyn yn cynrychioli'r atom sylffwr sy'n weithredol mewn adweithiau rhydocs ac yn gyfrifol am yr effaith wrthocsidol, tra bo'r sfferau coch, glas, gwyn a llwyd yn cynrychioli ocsigen, nitrogen, hydrogen a charbon yn ôl eu trefn.

Molecwl gyda'r gallu i atal ocsidiad molecylau eraill ydyw gwrthocsidydd. Adwaith gemegol yw ocsidio, sy'n trosglwyddo electronau o sylwedd i ocsidydd. Mae adweithiau ocsidio yn creu radicalau rhydd. Yn eu tro, mae radicalau rhydd yn dechrau adweithiau cadwyn sydd â'r gallu i niweidio celloedd. Mae gwrthocsidyddion yn dwyn yr adweithiau cadwyn i ben trwy diddymu'r rhyngolion radical-rhydd, ac yn atal adweithiau ocsidio eraill. Wrth wneud hyn, caent eu hocsidio eu hunain, felly mae gwrthocsidyddion yn aml yn rhydwythyddion megis thiolau, asid asgorbig neu polyffenolau.[1]

Er bod adweithiau ocsidio yn angenrheidiol ar gyfer bywyd, gallent hefyd fod yn niweidiol; mae planhigion ac anifeiliaid yn cynnal systemau cymhleth â gwahanol fathau o wrthocsidyddion felly, megis glutathione, fitamin C, a fitamin E yn ogystal ag ensymau megis catalas, dismwtas swperocsid a gwahaol fathau o berocsidas. Gall lefelau isel o wrthocsidyddion, neu atal ensymau gwrthocsidio, achosi straen ocsidol a niweidio neu lladd celloedd.

Mae gwrthocsidyddion yn cael eu hastudio'n ddwys ym maes ffarmacoleg, yn enwedig felly fel darpar driniaeth ar gyfer strôc ac afiechydon a achoswyd gan ddirywiad niwronau, oherwydd y gall straen ocsidol fod yn rhan bwysig o sawl afiechyd dynol. Gwaetha'r modd, ni wyddys a yw straen ocsidol yn achos neu'n ganlyniad i afiechyd.

Defnyddir gwrthocsidyddion yn aml mewn tabledi maeth gan obeithio cynnal iechyd ac atal afiechydon megis cancr, clefyd coronaidd y galon a chlefyd uchder hyd yn oed. Er i ymchwil cychwynnol awgrymu y gall ychwanegion gwrthocsidol fod yn llesol, methodd profion clinigol diweddarach â dangos unrhyw les, gan ddangos i'r gwrthwyneb, y gall gormodedd o wrthocsidyddion fod yn niweidiol.[2][3] Yn ogystal â'r defnydd o wrthocsidyddion naturiol mewn meddygaeth, mae gan y sylweddau hyn ddibenion diwydiannol, megis fel cadwolion bwyd a cholur, ac er mwyn atal dirywiad rwber a gasolin.

  1. Sies H (1997). Oxidative stress: oxidants and antioxidants, Exp Physiol, Cyfrol 82, Rhifyn 2, tud. 291–5. 9129943. URL
  2. Baillie, J K (2009-03-09). Oral antioxidant supplementation does not prevent acute mountain sickness: double blind, randomized placebo-controlled trial, QJM: Monthly Journal of the Association of Physicians, Cyfrol 102, Rhifyn 5, tud. 341–8. DOI:10.1093/qjmed/hcp026. 19273551. URL
  3. Bjelakovic G (2007). Mortality in randomized trials of antioxidant supplements for primary and secondary prevention: systematic review and meta-analysis, JAMA, Cyfrol 297, Rhifyn 8, tud. 842–57. DOI:10.1001/jama.297.8.842. 17327526

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search