TDI Volkswagen Golf yn 2010, gyda'r geiriau "disel glân" ar ei ochr. Cyn hir, byddai'r cwmni'n wynebu craffu manwl oherwydd sgandal allyriadau VW. | |
Enghraifft o: | gweithgaredd economaidd, sbin, hysbysebu ![]() |
---|---|
Math | hapfasnach, twyll, propaganda, marchnata gwyrdd, imitation ![]() |
Y gwrthwyneb | greenhushing ![]() |
![]() |
Mae Gwyrddolchi (gair cyfansawdd tebyg i "gwyngalchu"), yn fath o sbin hysbysebu neu farchnata lle mae cysylltiadau cyhoeddus gwyrdd a marchnata gwyrdd yn cael eu defnyddio'n dwyllodrus i berswadio'r cyhoedd bod sefydliad neu gwmni cynhyrchion, amcanion a pholisïau yn gyfeillgar i'r amgylchedd. Llwch yn llygad y cyhoedd yw gwyrddolchi, ac yn aml iawn fe'i gwneir gan gwmnïau nad ydynt mor wyrdd a hynny.[1]
Enghraifft o wyrddolchi yw pan fydd sefydliad yn gwario llawer mwy o adnoddau ar hysbysebu sy'n "wyrdd" nag ar arferion amgylcheddol cadarn.[2] Gall gwyrddolchi amrywio o newid enw neu label cynnyrch i ddwyn i gof yr amgylchedd naturiol (er enghraifft ar gynnyrch sy'n cynnwys cemegau niweidiol) i ymgyrchoedd gwerth miliynau o ddoleri sy'n portreadu cwmnïau ynni hynod lygredig fel rhai ecogyfeillgar. Mae'r gair Cymraeg yn gyfieithiad o Greenwashing gair Saesneg, ac yn cwmpasu agendâu a pholisïau corfforaethol anghynaliadwy Lloegr, America a mannau eraill.[3] Mae cyhuddiadau cyhoeddus yn y 21g wedi cyfrannu at ddefnydd cynyddol y term.[4]
Mae rheoliadau, deddfau a chanllawiau newydd gan sefydliadau fel y Pwyllgor Arferion Hysbysebu yn golygu annog cwmnïau i beidio â defnyddio gwyrddolchi i dwyllo defnyddwyr.[5]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search