Homili

Origen o Alecsandria, c.184 - c.253, y cyntaf i wahaniaethu rhwng 'logos' a 'homilia'

Sylwebaeth sy'n dilyn darlleniad o'r ysgrythur yw homili.[1] Yn y Gatholigiaeth, yr Anglicaniaeth, y Lwtheriaeth a'r Uniongrededd Dwyreiniol, mae homili fel arfer yn cael ei rhoi yn ystod yr Offeren (Litwrgi Dwyfol neu Qurbana Sanctaidd i Eglwysi Uniongred a Chatholig Dwyreiniol, a'r Oedfa i'r Eglwys Lutheraidd) ar ddiwedd Litwrgi'r Gair. Mae nifer o bobl yn ei ystyried yn gyfystyr a phregeth.

Mae'r gair homili yn tarddu o'r gair Hen Roeg homilía ὁμιλία (o homileîn ὁμιλεῖν), sy'n golygu cymundeb neu gynnal trafodaeth gyda rhywun. Yn yr ystyr hon mae homilia yn cael ei ddefnyddio yn 1 Corinthiaid 15:33. Yn Luc 24:14, rydyn ni'n canfod y gair homiloun, ac yn Actau 24:26, homilei, y ddau yn cael eu defnyddio yn yr ystyr "siarad â". Origen oedd y cyntaf i wahaniaethu rhwng logos (sermo) ac homilia (tractatus). Ers dyddiau Origen mae homili wedi golygu, ac yn parhau i olygu, sylwebaeth, heb gyflwyniad ffurfiol, raniadau, neu gasgliad, ar rhyw ran o'r Ysgrythur Lan, gyda'r nod o esbonio ei ystyr yn llythrennol, a'i ryddhau yn ysbrydol. Yr ail, fel rheol, yw'r pwysicaf; ond os, fel yn achos Origen, y rhoir mwy o sylw i'r blaenorol, yna gellid galw'r homili yn esboniadol yn hytrach nag anogaethol. Dyma'r ffurf hynaf o bregethu Cristnogol.[2]

  1. Homilies for Sundays and Holidays
  2. "Homily". The Catholic Encyclopedia (1910).

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search