Gwerthusiad goddrychol unigolyn o'i werth ei hun yw hunan-barch. Mae hunan-barch yn cwmpasu credoau amdanoch chi'ch hun (er enghraifft, "Does neb yn fy gharu", "Mae gennyf werth") yn ogystal â chyflyrau emosiynol, megis llwyddiant, anobaith, balchder a chywilydd. [1] Fe wnaeth Smith a Mackie (2007) ei ddiffinio trwy ddweud "Yr hunan-gysyniad yw'r hyn rydyn ni'n ei feddwl am ein hunain; hunan-barch, yw'r gwerthuso cadarnhaol neu negyddol am ein hunain, fel sut rydyn ni'n teimlo amdano." [2]
Mae hunan-barch yn nodwedd seicolegol deniadol oherwydd bod posib cael gwell canlyniad i wahanol agweddau yn ein bywydau. Gall hyn gynnwys cyflawniad academaidd,[3] hapusrwydd,[4] boddhad mewn priodas a pherthnasau, [5] ac ymddygiad troseddol . [5] Gall hunan-barch fod yn berthnasol i nodwedd benodol neu'n fyd-eang. Mae seicolegwyr fel arfer yn ystyried fod hunan-barch yn nodwedd bersonoliaeth barhaus ( nodwedd hunan-barch ), er bod amrywiadau tymor byr arferol ( cyflwr hunan-barch ) hefyd yn bodoli. Mae cyfystyron neu gyfystyron tebyg o hunan-barch yn cynnwys: hunan-werth, [6] hunan-ystyriaeth, hunan-barch, [7] a hunan-uniondeb. Mae'n derm dadleuol rhwng academyddion oherwydd bod rhai yn credu nad yw'r cysyniad yn bodoli a'i fod yn cael ei fesur yn well gan lefelau nodwedd allblygedd a mewnblygedd.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search