Jennifer Michael Hecht | |
---|---|
Ganwyd | 23 Tachwedd 1965 Glen Cove, Efrog Newydd |
Man preswyl | Brooklyn |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, hanesydd, athronydd, ysgrifennwr |
Mudiad | anffyddiaeth |
Gwobr/au | Gwobr Ralph Waldo Emerson |
Awdures Americanaidd yw Jennifer Michael Hecht (ganwyd 23 Tachwedd 1965) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, hanesydd, athronydd ac athrawes. Bu'n athro prifysgol yng Ngholeg Cymuned Nassau rhwng 1994-2007 ac yn ddiweddar bu'n dysgu yn 'y Coleg Newydd' yn Efrog Newydd.
Fe'i ganed yn Long Island ar 23 Tachwedd 1965. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia a Phrifysgol Adelphi.[1][2]
Erbyn 2019 roedd wedi cyhoeddi saith llyfr a chyhoeddwyd ei herthyglau ysgolheigaidd mewn nifer o bapurau a chylchgronau, ac mae ei barddoniaeth wedi ymddangos yn The New Yorker, The New Republic, Ms Magazine, a Poetry Magazine, ymhlith eraill. Mae hefyd wedi ysgrifennu traethodau ac adolygiadau o lyfrau yn The New York Times, The Washington Post, The Philadelphia Inquirer, The American Scholar, The Boston Globe a chyhoeddiadau eraill. Mae hi wedi ysgrifennu sawl colofn ar gyfer The New York Times ar-lein "Times Select." Yn 2010 roedd Hecht yn un o'r pum beirniad ffuglen ar gyfer y Wobr y Llyfr Genedlaethol.
Mae ganddi flog yn y gyfres The Best American Poetry ac un arall yn ei gwefan hi ei hun. Yn Brooklyn, Efrog Newydd mae'n byw ar hyn o bryd (2019), gyda'i gŵr a dau o blant.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search