Math | bwyd |
---|---|
Deunydd | bulgur |
Label brodorol | كبة |
Gwlad | Irac, Syria, Libanus |
Rhan o | Turkish cuisine |
Yn cynnwys | nionyn, bulgur, cig |
Enw brodorol | كبة |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Teulu o seigiau (neu brydau bwyd) yw Kibbeh (/k ɪ b i /, hefyd kubba a sillafiadau eraill; Arabeg: كبة) sydd wedi'u seilio ar friwgig sbeislyd, nionyn, a grawn. Mae'n bryd hynod o boblogaiddyn y Lefant (a rhannau eraill o'r Dwyrain Canol).[1][2][3][4]
Mewn bwyd o'r Lefant, mae kibbeh fel arfer yn cael ei wneud trwy ddyrnu gwenith bulgur a chig nes eu malu'n bast mân a'i ffurfio'n beli gyda chnau pinwydd a sbeisys wedi'u tostio. Yn aml, caiff ei haenu a'i goginio ar hambwrdd metal, neu ei ffrio'n ddwfn, ei grilio, neu ar adegau caiff ei weini'n amrwd.[5] Mewn bwyd Mesopotamaidd, ceir fersiynau gyda reis neu farina (sef gwenith wedi'i falu).[6] Mae rhai ryseitiau'n ychwanegu semolina.[7]
Ystyrir Kibbeh yn ddysgl genedlaethol yn Syria ac yn enwedig yn Aleppo,[8] ac mae'n ddysgl boblogaidd yn y Dwyrain Canol er enghraifft yn Libanus, Palestina, Gwlad yr Iorddonen, ac ati. Mae amrywiadau i'w cael yng Nghyprus, yr Aifft, Israel, Irac, Iran, Gwlff Persia, Armenia a Thwrci.[2] Erbyn hyn, fe'i ceir hefyd ledled y gwledydd America Ladin - gwledydd a dderbyniodd lawer o fewnfudwyr o'r Levant ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20g,[9] yn ogystal â rhannau o Ogledd America.[10]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search