Lamech

Tad Noa yn yr Hen Destament a'r Torah oedd Lamech (weithiau Lemech). Yn ôl un achres mae'n fab Methusael ac yn un o ddisgynyddion Cain, ond yn ôl achres arall mae'n fab i Fethusela o linach Seth; credir fod y dryswch yn codi o ddau draddodiad cynnar am darddiad y ddynolryw.

Ceir ei hanes yn Llyfr Genesis lle priodolir iddo "Cân y cledd". Mae'n dad i Noa yn ôl un o'r achresi (Gen 5:25-31) ond yn ôl yr achres arall (Gen 4:18-14) roedd yn dad i Isbal, Iwbal Twbal-Cain a Naama.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search