Lludwymon

Lludwymon
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Mathecosystem forwrol Edit this on Wikidata
Safle tacsonurdd Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonFucophycidae Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwymon algâu brown mawr yw lludwymon[1][2] (hefyd môr-wiail[3], morwiail[4], brŵal[3], brwydd[angen ffynhonnell]) sy'n ffurfio'r urdd Laminariales. Mae tua 30 gwahanol genws.[5] Er gwaethaf ei ymddangosiad, nid yw gwymon yn cael ei alw'n blanhigyn - mae'n heterokont, sydd yn grŵp cwbl anghysylltiedig o organebau.[6]

Mae brŵydd yn tyfu mewn "coedwigoedd tanddwr" (coedwigoedd gwymon) mewn cefnforoedd bas, a chredir iddo ymddangos yn oes y Mïosen, 5 i 23 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[7] Mae angen dŵr llawn maetholion ar yr organebau gyda thymheredd rhwng 6 ac 14°C. Maent yn adnabyddus am eu cyfradd twf uchel - gall y genera Macrocystis a Nereocystis dyfu mor gyflym â hanner metr y dydd, gan gyrraedd rhwng 30 ac 80 metr.[8]

Trwy'r 19eg ganrif, roedd y gair "kelp" yn Saesneg yn gysylltiedig yn agos â gwymon y gellid ei losgi i gael lludw soda (sodiwm carbonad yn bennaf). Roedd y gwymon a ddefnyddiwyd yn cynnwys rhywogaethau o'r ddau ddosbarth Laminariales a Fucales. Defnyddiwyd y gair "kelp" hefyd yn uniongyrchol i gyfeirio at y lludw wedi'i brosesu hyn[9], lludw gwymon yn Gymraeg.

  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2022-12-23.
  2. "Cyfarfod Llawn 18/05/2022". Senedd Cymru. Cyrchwyd 2022-12-23.
  3. 3.0 3.1 "Geiriadur yr Academi | The Welsh Academy English-Welsh Dictionary Online". Cyrchwyd 2022-12-23.
  4. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2022-12-23.
  5. Bolton, John J. (23 July 2010). "The biogeography of kelps (Laminariales, Phaeophyceae): a global analysis with new insights from recent advances in molecular phylogenetics". Helgoland Marine Research 64 (4): 263–279. Bibcode 2010HMR....64..263B. doi:10.1007/s10152-010-0211-6.
  6. Silberfeld, Thomas; Rousseau, Florence; de Reviers, Bruno (2014). "An Updated Classification of Brown Algae (Ochrophyta, Phaeophyceae)". Cryptogamie, Algologie 35 (2): 117–156. doi:10.7872/crya.v35.iss2.2014.117.
  7. University of California Museum of Paleontology: The Miocene Epoch
  8. Thomas, D. 2002.
  9. "Kelp," in Oxford English Dictionary (Second Edition).

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search