Macroiaith

Safon ryngwladol dros godau ieithoedd yw ISO 639-3. Wrth ddiffinio codau rhai o'r ieithoedd, mae'n rhoi'r term macroiaith ar achosion sydd ar y ffin rhwng bod yn dafodieithioedd gwahanol dros ben ac yn ieithoedd cytras iawn (cotinwwm ieithyddol) ac ar amrywiadau llafar sydd wedi'u hystyried naill ai'n un iaith neu'n ieithoedd gwahanol oherwydd rhesymau ethnig neu wleidyddol yn hytrach na rhai ieithyddol.

Ceir 56 o ieithoedd yn ISO 639-2 a ystyrir yn facroieithoedd yn ISO 639-3.[1] Defnyddir y categori "macroiaith" yn 16eg argraffiad Ethnologue hefyd.[2]

Nid oedd gan rai o facroieithoedd ISO 639-2 ieithoedd unigol yn ISO 639-3, e.e ara (Arabeg). Roedd gan eraill fel nor (Norwyeg) ddwy ran unigol (nno Nynorsk, nob Bokmål) eisoes yn 639-2. Mae hyn yn golygu bod rhai ieithoedd (e.e. arb Arabeg Safonol) a ystyrid yn dafodieithoedd un iaith (ara) gan ISO 639-2 yn awr yn ieithoedd unigol mewn rhai cyd-destunau yn ISO 639-3. Dyma 639-3 yn ceisio trin amrywiadau sydd efallai'n ieithyddol wahanol i'w gilydd, ond y mae'u siaradwyr yn eu gweld yn ffurfiau ar yr un iaith, e.e. yn achosion deuglosia, e.e. Arabeg Cyffredinol (639-2) [3] ac Arabeg Safonol (639-3).[4]

  1. "Scope of denotation for language identifiers". SIL International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-08. Cyrchwyd 2014-05-05.
  2. Lewis, M. Paul, gol. 2009. Ethnologue. Dallas: SIL International
  3. "Documentation for ISO 639 identifier: ara". SIL International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-16. Cyrchwyd 2014-05-05.
  4. "Documentation for ISO 639 identifier: arb". SIL International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-13. Cyrchwyd 2014-05-05.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search