Prentisiaeth

Crydd a'i brentis

Math o hyfforddiant yw prentisiaeth sydd yn addysgu cenhedlaeth newydd sgiliau a gwybodaeth ar gyfer crefft benodol.[1] Mae prentis yn adeiladu ei yrfa ar ei brentisiaeth.

Ffilm fer ar brentis ifanc ym Merthyr

Gwneir y mwyafrif o'i hyffordiant tra'n gweithio i gyflogwr sydd yn cynorthwyo'r prentis wrth ddysgu ei grefft, yn gyfnewid am lafur y prentis am gyfnod estynedig y cytunwyd arno unwaith ei fod yn fedrus. Gall addysg ddamcaniaethol chwarae rhan hefyd, yn anffurfiol yn y gweithle neu trwy fynychu ysgol alwedigaethol tra bo'r cyflogwr dal yn ei dalu.

  1. (Saesneg) apprenticeship. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Chwefror 2014.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search