![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.23°N 3.86°W ![]() |
Cod OS | SH755719 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Caerhun, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Rowen[1] neu Ro-wen, weithiau Y Ro. Daw'r enw o "gro wen". Saif ychydig oddi ar y ffordd B5106, rhwng Dolgarrog a Chonwy, ar ochr orllewinol Dyffryn Conwy.
Mae Afon Ro yn llifo trwy'r pentref cyn ymuno ag Afon Conwy. Mae gan y pentref siop a thafarn, ac mae hostel ieuenctid ychydig i'r gorllewin o'r pentref. Roedd y pentref yn bwysicach yn y gorffennol, gyfa thair melin a phandy yma.
O ddilyn y ffordd heibio'r hostel ieuenctid, mae'n troi'n ffordd drol sy'n dilyn llinell y ffordd Rhufeinig o Canovium (Caerhun) i Segontium (Caernarfon). Gellir dilyn y ffordd yma i fyny i gyfeiriad Bwlch y Ddeufaen, gan basio nifer o henebion diddorol, megis siambr gladdu Maen y Bardd o'r cyfnod Neolithig. Ceir hen eglwys Llangelynnin gerllaw hefyd.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search