STV

STV
Math
sianel deledu
Sefydlwyd2006
PencadlysGlasgow
PerchnogionSTV Group
Gwefanhttp://www.stv.tv Edit this on Wikidata
Logo STV

STV yw'r enw a ddefnyddir gan y ddwy drwydded ITV yng Ngogledd a Chanolbarth yr Alban a adnabyddwyd gynt fel Grampian Television (STV North) a Scottish Television (STV Central). Mabwysiadwyd y brand ar Ddydd Mawrth 30 Mai 2006 gan ddisodli enwau'r ddwy fasnachfraint, yn debyg i'r hyn a wnaeth ITV1. Lluniwyd y brand newydd gan Elmwood Design sydd â swyddfa yng Nghaeredin. STV Group plc sy'n berchen ar y ddwy fasnachfraint a hefyd yn berchen ar frandiau eraill megis STV Productions, Ginger Productions a Pearl & Dean.

Lleolwyd stiwdios STV ar Stryd Renfield yn ardal Cowcaddens, Glasgow, ers ei sefydliad ym 1974, ond bellach wedi symud i rannu stiwdios newydd yn Pacific Quay ym mis Gorffennaf 2006 gyda BBC Scotland ger Glasgow Science Centre. Lleolir stiwdio arall STV ar safle pwrpasog yn ardal Gorwellin Tullos yn Aberdeen. Mae gan STV ganolfannau darlledu eraill yng Nghaeredin, Dundee ac Inverness ar gyfer cynhyrchiad newyddion rhanbarthol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search