Teseract

Diagram Schlegel o'r teseract.

Analog pedwar-dimensiwn o'r ciwb yw teseract o fewn maes geometreg. Mae'r teseract i'r ciwb, yr hyn yw'r ciwb i'r sgwâr. Yn union fel y mae gan arwyneb y ciwb chwe ochr sgwâr, mae uwcharwynebau'r teseract yn cynnwys wyth cell ciwbig. Mae'r tesseract, hefyd, yn un o'r chwech polytop-4 rheolaidd amgrwm.

Gelwir y teseract hefyd wrth yr enwau canlynol: wyth-cell, C8, octachoron (rheolaidd), octahedroid,[1] prism ciwbig a tetraciwb.[2] Hwn yw'r hyperciwb 4-dimensiwn o fewn y teulu o hyperciwbiau.[3]

Yn ôl yr Oxford English Dictionary, bathwyd y gair teseract yn 1888 gan Charles Howard Hinton yn ei lyfr A New Era of Thought, ac mae'r gair yn air cyfansawdd o'r Groeg τέσσερεις ακτίνες (téssereis aktines, "pedwar pelydryn"), sy'n cyfeirio at y bedair linell a ddaw o bob fertig.[4] Y sillafiad gwreiddiol oedd "tessaract".

  1. Matila Ghyka, The geometry of Art and Life (1977), tud.68
  2. Gall y term yma (tetraciwb) hefyd gyfeirio at y polyciwb, sy'n cynnwys pedwar ciwb.
  3. E. L. Elte, The Semiregular Polytopes of the Hyperspaces, (1912)
  4. "Home : Oxford English Dictionary". Oed.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-22. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search