![]() | |
Enghraifft o: | genre mewn ffilm, arddull teledu ![]() |
---|---|
Math | ffilm ffuglen ddyfaliadol, tokusatsu ![]() |
Enw brodorol | 特撮 ![]() |
![]() |
Genre ffilm a theledu o Japan yw tokusatsu (Japaneg: 特撮とくさつ, "ffilmio arbennig"). Mae tokusatsu yn defnyddio llawer o effeithiau arbennig a bywiog, ar ffilmiau a theledu llawn cyffro. Roedd yn un o'r mathau mwyaf poblogaidd o adloniant yn Japan. Mae cysylltiad agos rhwng tokusatsu a ffuglen wyddonol, ffuglen ryfel, ffuglen arswyd a ffantasi. Dechreuodd Eiji Tsuburaya ddatblygu'r genre yn y 1930au.[1]
Ceir sawl is-ddosbarth o fewn y genre tokusatsu: ffilmiau gyda kaiju (angenfilod enfawr) fel Godzilla a Gamera, archarwyr fel Kamen Rider a Metal Hero, arwyr kyodai (cymeriadau a all dyfu i faint aruthrol) fel Ultraman a Gridman; a mecha (robotiaid anferth) fel Giant Robo a Super Robot Red Baron.
Ymhlith yr enghreifftiau mwyaf poblogaidd o Tokusatsu mae: Rhybudd O'r Gofod (1056), Genedigaeth Japan (1959), Invasion of The Neptune Men (1061), Hwyl Fawr Planed Iau (1984) a Samurai Commando: Mission 1549 (2005).
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search