Actores a chantores Americanaidd oedd Irene Cara (18 Mawrth 1959 – 25 Tachwedd 2022). Enillodd Cara Wobr yr Academi ym 1984 yng Nghategori y Gân Wreiddiol Orau am gyd-ysgrifennu "Flashdance... What a Feeling". Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chaneuon "Fame" a "Flashdance...What a Feeling." Serennodd hefyd yn y fersiwn ffilm o Fame ym 1980 a'r ffilm o 1976 Sparkle. Cafodd Irene Cara Escalera ei geni yn Ddinas Efrog Newydd, yn ferch i'r gweithiwr ffatri Gaspar Escalera a'i wraig Louise. Priododd Conrad Palmisano ym mis Ebrill 1986; ac ysgarodd y cwpl yn 1991.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search