Grŵp ethnig a chenedl yw'r Aseriaid (Aserbaijaneg: Azərbaycanlılar) sy'n byw yn Aserbaijan a Iran yn bennaf. Yn ogystal, ceir nifer o Aseriaid neu bobl o dras Aseriaid sydd i'w cael fel lleiafrifoedd ethnig yn bennaf yn Rwsia, Twrci, Georgia, Casachstan, Wcrain, Wsbecistan, Tyrcmenistan, Irac a Syria. Maent yn wreiddiol o Ganolbarth Asia ac yn siarad Aserbaijaneg fel mamiaith.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search