34ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, o 1953 i 1961, oedd Dwight David "Ike" Eisenhower (14 Hydref 1890 – 28 Mawrth 1969). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Eisenhower oedd Pencadlywydd Byddin Alldeithiol y Cynghreiriaid yn Ewrop, a oruchwyliodd glaniadau Normandi a'r symudiad tuag at yr Almaen o Ffrynt y Gorllewin. Wedi'r rhyfel, gwasanaethodd Eisenhower fel Pennaeth Staff dan yr Arlywydd Harry S. Truman a Llywydd Prifysgol Columbia. Ym 1951 daeth yn Bencadlywydd cyntaf NATO. Enillodd Eisenhower etholiad arlywyddol 1952 fel Gweriniaethwr. Fel Arlywydd dilynodd bolisïau cyfyngiant ac ataliaeth niwclear i atal ymlediad comiwnyddiaeth yn ystod y Rhyfel Oer. Daeth â therfyn i Ryfel Corea a gorchmynnodd newid llywodraeth yn Iran a Gwatemala. Ceisiodd atal effaith y dominos, er enghraifft trwy ymrwymo'r Unol Daleithiau i amddiffyn Gweriniaeth Tsieina (Taiwan) yn erbyn Gweriniaeth Pobl Tsieina. Yn ystod ei arlywyddiaeth bu rhywfaint o dwf economaidd yn yr Unol Daleithiau. Sefydlodd y System Priffyrdd Rhyngdaleithiol a dadwahanodd y lluoedd arfog.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search