Arweinydd goruchaf Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Xi Jinping (pinyin: Xí Jìnpíng; ganwyd 15 Mehefin 1953) sy'n ddeiliad swyddi'r Arlywydd, Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Tsieina, Cadeirydd y Comisiwn Milwrol Canolog, a phrif aelod Pwyllgor Sefydlog Politbiwro'r Blaid Gomiwnyddol. Daeth yn bennaeth Plaid Gomiwnyddol Tsieina a lluoedd milwrol Gweriniaeth Pobl Tsieina yn ystod 18fed Gyngres Genedlaethol y Blaid Gomiwnyddol yn Nhachwedd 2012.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search