1 results found for: “FTX”.

Request time (Page generated in 0.1656 seconds.)

Nansi Richards

Telynores Gymreig oedd Nansi Richards a adnabyddid hefyd fel Telynores Maldwyn (14 Mai 1888 – 24 Rhagfyr 1979). Ganwyd ar Fferm Penybont, Penybontfawr...

Last Update: 2024-03-19T12:07:41Z Word Count : 600

View Rich Text Page View Plain Text Page

Main result

Nansi Richards

Telynores Gymreig oedd Nansi Richards a adnabyddid hefyd fel Telynores Maldwyn (14 Mai 1888 – 24 Rhagfyr 1979). Ganwyd ar Fferm Penybont, Penybontfawr. Bu farw yn 1979, a chafodd ei chladdu, efo'i gŵr, Cecil Jones, yn eglwys Pennant Melangell. Dywedodd mai'r dylanwadau mwyaf arni hi oedd ei thad, teulu Abram Wood (sipsiwn a arhosodd ar eu fferm) a Tom Lloyd (Telynor Ceiriog) a ddysgodd Nansi i ganu'r delyn. Penodwyd hi'n delynores swyddogol i'r Tywysog Siarl. Bu'n fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol, y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangollen 1908. Aeth i Goleg y Guildhall yn Llundain am flwyddyn cyn iddi adael i deithio'r neuaddau cerdd efo digrifwraig, 'Happy' Fanny Fields. Derbynnodd sawl gwahoddiad yn ddiweddarach i chwarae o flaen Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig. Bu'n gweithio ar ffilmiau Emlyn Williams The Last Days of Dolwyn a Fruitful Years. Yn ystod ei gyrfa, gweithiodd yn aml yn yr Unol Daleithiau: ym 1923 a eto yn Efrog Newydd ym 1973. Roedd hi'n gyfaill i William Kellogg, perchennog y cwmni sy'n cynhyrchu Creision ŷd, a honir mai hi awgrymodd wrtho ddefnyddio ceiliog ar y paced. Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd teithiodd hyd a lled gwledydd Prydain gydag ENSA i ddiddori'r milwyr a chymerodd ran mewn dros 2,000 o gyngherddau gyda Chôr Telyn Eryri o 1930 ymlaen. Perfformiodd droeon o flaen Teulu Brenhinol Lloegr a chafodd yr hawl gan George V i arddel y teitl "y Delynores Frenhinol", ond dewis peidio a wnaeth. Derbyniodd MBE ym 1973 am ei chyfraniad i gerddoriaeth Cymru. Ym 1977 cafodd radd Doethur er Anrhydedd mewn cerddoriaeth gan Brifysgol Cymru. Cyhoeddwyd cyfrol o'i hatgofion,Cwpwrdd Nansi, ym 1973, a chyfrol arall ychydig wedyn. Ymhlith y bobl y dylanwadodd arnynt mae Gwyndaf a Dafydd Roberts (Ar Lôg).


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search