AIDS

AIDS
Delwedd:Red Ribbon.svg, Roja AIDSê ku.png
Enghraifft o'r canlynolendemic disease, syndrom, pandemig, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathfeirws imiwnoddiffygiant dynol, acquired immunodeficiency, haint a drosglwyddir yn rhywiol, clefyd Edit this on Wikidata
Lladdwyd40,400,000 Edit this on Wikidata
SymptomauBrech, night sweats, myalgia, dolur gwddf, blinder meddwl, enlargement of lymph nodes, wlser yn y ceg, oerni edit this on wikidata
AchosHiv edit this on wikidata
Dyddiad darganfod1981 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1959 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Defnyddir y rhuban goch fel symbol o HIV ac AIDS

Mae Syndrom Diffyg Imiwnolegol Caffaeledig (Saesneg: Acquired Immune Deficiency Syndrome, er fe'i adnabyddir yn amlach gan y talfyriad AIDS), yn ddiffiniad o arwyddion, symptomau, heintiau, a chanserau sydd yn gysylltiedig â'r diffygiad yn y system imiwnedd sydd yn deillio o fod yn heintiedig â HIV. Mae'r cyflwr hwn yn lleihau effeithiolrwydd y system imiwnedd gan adael unigolyn yn agored i heintiau a thyfiannau manteisgar. Caiff HIV ei drosglwyddo drwy gyswllt uniongyrchol rhwng pilen ludiog neu lif gwaed â hylif corfforol sy'n cynnwys HIV, er enghraifft gwaed, semen, hylif gweiniol, hylif cyn-semen a llaeth y fron. Gellir trosglwyddo'r firws drwy ryw rhefrol, gweiniol neu eneuol, trallwysiad gwaed, nodwyddau hypodermig wedi'u heintio, o'r fam i'r baban yn ystod y beichiogrwydd, genedigaeth neu drwy fwydo o'r fron.

Bellach mae AIDS yn fyd-eang. Yn 2007, amcangyfrifwyd fod 33.2 miliwn o bobl ledled y byd yn byw gyda'r afiechyd a bod 2.1 miliwn wedi eu lladd gan y firws, gan gynnwys 330,000 o blant. Yn Affrica Îs-Sahara y bu dros dri chwarter o'r marwolaethau hyn, gan amharu ar dyfiant economaidd a dinistrio cyfalaf dynol. Cred y mwyafrif o ymchwilwyr y dechreuodd HIV yn Affrica Îs-Sahara yn ystod yr 20g. Cafodd AIDS ei gydnabod gan Ganolfannau Rheolaeth ac Atal Afiechydon yr Unol Daleithiau ym 1981 a chanfuwyd ei achos, HIV, gan wyddonwyr Americanaidd a Ffrengig ar ddechrau'r 1980au.

Er bod triniaeth am AIDS a HIV yn medru arafu datblygiad yr afiechyd, ar hyn o bryd nid oes iachâd neu frechlyn i'r afiechyd. Mae triniaethau gwrthiant yn lleihau'r marwolaethau o heintiadau HIV, ond mae'r cyffuriau hyn yn ddrud ac nid ydynt ar gael yn hawdd ymhob gwlad. Am fod anawsterau wrth drin heintiadau HIV, atal pobl rhag cael eu heintio yn y lle cyntaf yw'r nod wrth reoli'r epidemig AIDS, gyda sefydliadau iechyd yn hyrwyddo rhyw mwy diogel a chyfnewidfeydd nodwyddau er mwyn ceisio arafu'r firws.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search