Afon Mississippi

Afon Mississippi
Mathy brif ffrwd Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser Canolog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau47.2397°N 95.2075°W, 29.1536°N 89.2508°W Edit this on Wikidata
TarddiadLlyn Itasca Edit this on Wikidata
AberGwlff Mecsico Edit this on Wikidata
Dalgylch2,981,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd3,766 ±1 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad12,743 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLlyn Itasca, Llyn Bemidji, Llyn Cass, Llyn Winnibigoshish, Llyn Pepin, Llyn Onalaska, Llyn Winneshiek Edit this on Wikidata
Map

Yr ail afon hiraf yn Unol Daleithiau America yw'r Mississippi, yng nghanolbarth y wlad. Ganddi hi, hefyd mae'r ail basn draenio mwyaf yng Nghyfandir Gogledd America.[1][2]

Mae'r afon yn tarddu yn Llyn Itasca, yng ngogledd Minnesota ac yn llifo i'r de i aberu yng Ngwlff Mecsico. Gyda Afon Missouri, sy'n ymuno â hi fymryn i'r gogledd o ddinas St. Louis, mae'n ffurfio'r 3ydd system afon hiraf yn y byd (6050 km / 3759 milltir) ac mae ganddi'r basin draenio trydydd mwyaf yn y byd yn ogystal (3,222,000 km² / 1,243,753m²).[2][3] Oherwydd y perygl o orlifo, fel y profwyd yn Orleans Newydd yn Awst 2005, mae ganddi system gymhleth o gloddiau dŵr (levees) am hanner olaf ei chwrs.

Mae Americanwyr Brodorol wedi byw ar hyd Afon Mississippi a'i llednentydd ers miloedd o flynyddoedd. Helwyr-gasglwyr oedd y mwyafrif, ond roedd rhai, fel Adeiladwyr y Mwnt, yn ffurfio gwareiddiadau amaethyddol a threfol gwaraidd iawn. Newidiodd dyfodiad Ewropeaid yn yr 16g y ffordd frodorol o fyw wrth i archwilwyr cyntaf, yna ymsefydlwyr, fentro i'r basn.[4] Gwasanaethodd yr afon yn gyntaf fel rhwystr, gan ffurfio ffiniau ar gyfer Sbaen Newydd, Ffrainc Newydd, a'r Unol Daleithiau cynnar, ac yna fel priffordd i gludo a chyfathrebu newyddion a gwybodaeth.

Wedi'i ffurfio o haenau trwchus o ddyddodion (deposits) silt yr afon, mae basn y Mississippi yn un o ardaloedd mwyaf ffrwythlon yr Unol Daleithiau; defnyddiwyd agerlongau yn helaeth yn y 19g a dechrau'r 20g i gludo nwyddau amaethyddol a diwydiannol. Yn ystod Rhyfel Cartref America, roedd cipio’r Mississippi gan luoedd yr Undeb yn nodi trobwynt bwysig, tuag at fuddugoliaeth, oherwydd lleoliad strategol yr afon. Oherwydd twf sylweddol ei dinasoedd a'r llongau a'r cychod hwylio gwell a ddisodlodd y cychod stêm, yn ystod degawdau cyntaf yr 20g, adeiladwyd gwaith peirianneg enfawr fel llifgloddiau, lociau ac argaeau.

Ers yr 20g, mae Afon Mississippi hefyd wedi gwaethygu o ran llygredd ac mae ganddi broblemau amgylcheddol mawr - yn fwyaf arbennig lefelau maetholion a chemegol uwch o ddŵr ffo amaethyddol, a hi yw'r prif gyfrannwr i "barth marw Gwlff Mecsico".

  1. United States Geological Survey; Hydrological Unit Code: 08-09-01-00- Lower Mississippi-New Orleans Watershed
  2. 2.0 2.1 "Lengths of the major rivers". United States Geological Survey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mawrth 5, 2009. Cyrchwyd Mawrth 14, 2009.
  3. "Mississippi River Facts – Mississippi National River and Recreation Area (U.S. National Park Service)". www.nps.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2018. Cyrchwyd November 16, 2018.
  4. "Mississippi (river US) facts, information, pictures | Encyclopedia.com articles about Mississippi (river US)". www.encyclopedia.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 18, 2017. Cyrchwyd June 30, 2017.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search