Ali ibn Abi Talib | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mawrth 599 ![]() Mecca ![]() |
Bu farw | 29 Ionawr 661 ![]() Kufa ![]() |
Dinasyddiaeth | Rashidun Caliphate ![]() |
Galwedigaeth | gwladweinydd, qadi, Islamic jurist, muhaddith, mufassir, barnwr, bardd, Califf ![]() |
Swydd | Rashidun, The Twelve Imams ![]() |
Tad | Abu Talib Ibn ‘abd Al-Muttalib ![]() |
Mam | Fatimah bint Asad ![]() |
Priod | Fatima, Umm ul-Banin, Amama bint Zainab, Asma bint Umays, Khawla al-Hanafiyya, Q87345984, Q94573739, Q61358382 ![]() |
Plant | Hassan Ibn Ali, Husayn ibn Ali, Abbas ibn Ali, Jafar ibn Ali, Muhammad ibn al-Hanafiyyah, Zaynab bint Ali, Umm Kulthum bint Ali ibn Abi Talib, Hilal ibn Ali, Umar ibn Alí, Uthman ibn Ali, Muhsin ibn Ali, Abu Bakr ibn Ali, Abdullah ibn Ali ibn Abi Talib, Q100261164, Ubaidillah bin Ali, Khadija bint Ali, Maymouna bint Ali, Fatima bint Ali, Umama bint Ali, Ruqayya bint Ali, Ramla bint Ali, Aoun bin Ali ![]() |
Perthnasau | Muhammad ![]() |
Llinach | Banu Hashim, Alids ![]() |
Cefnder a mab yng nghyfraith Muhammad, proffwyd olaf Islam, oedd Alī ibn Abī Ṭālib (Arabeg: علي ابن أبي طالب; ynganiad: [ʕali]); 15 Medi 601 - 29 Ionawr 661). Ef oedd y pedwerydd califf; rheolodd ei bobl o 656 i 661, ond fe'i hystyrir fel olynydd uniongyrchol y Proffwyd Muhammad gan y Mwslimiaid Shia.[1]
Ganed ef gyda'r enwau Abu Talib a Fatimah bint Asad. Ef yw'r unig berson i'w eni yng nhysegr sanctaidd y Kaaba (Arabeg: كَـعـبَـة), ym Mecca, y lle mwyaf sanctaidd yn Islam, yn ôl llawer o Islamaidd clasurol, yn enwedig rhai Shia. Ali oedd y gwryw cyntaf a dderbyniodd Islam, ac yn ôl rhai awduron y Mwslim cyntaf.[2][3][4][5][6][7]
Wedi iddo symud i Medina, priododd ferch Muhammad, sef Fatimah. Penodwyd ef yn galiff gan gyfeillion Muhammad (Sahaba) yn 656, gan olynu Uthman ibn Affan i hwnnw gael ei lofruddio.[8][9] Amddiffynnodd Muhammad drwy ei oes, a chymrodd ran mewn sawl brwydr. Yn ystod teyrnasiad Ali yr ymladdwyd y Fitna Cyntaf (yr hyn a elwir yn ryfel cartref). Yn 661, ymosodwyd arno ac fe'i llofruddiwyd deuddydd yn ddiweddarach gan Kharijite tra roedd yn gweddio.[10][11][12][13]
Mae Ali'n allweddol bwysig i'r Shias a'r Sunnis, yn wleidyddol ac yn grefyddol.[14] Cred y ddau enwad fod Ali yn Fwslim i'r carn a'i fod yn bleidiol iawn i Islamiaeth; ceir hefyd mannau lle mae'r ddwy ochr yn anghytuno yn ei gylch.[15]
Cred y Sunnis mai Ali yw'r pedwerydd califf, a'r olaf, ond cred y Mwslimiaid Shia yw mai ef yw'r Imam cyntaf ar ôl Muhammad, oherwydd eu dehongliad o'i bregeth yn Ghadir Khumm. Mae Mwslimiaid Shia hefyd yn credu bod Ali a'r Shia Imams eraill (y mae pob un ohonynt yn aelodau o'r Bayṫ Muhammad) yn ddilynwyr cywir i Muhammad. Yr anghytundeb hwn oedd y maen tramgwydd a rannodd yr Ummah (Arabeg: أمة, Cymuned Mwslimaidd) i'r canghennau Shia a Sunni.
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search