Mae ymarferwyr y grefydd Wica yn defnyddio allor sydd fel arfer yn ddarn o ddodrefn, megis bwrdd neu gist, ac arno sawl eitem symbolaidd ac ymarferol a ddefnyddir er mwyn addoli'r Duw a'r Dduwies, swyno, siantio a gweddïo.[1] Fel arfer mae lliain, a ddefnyddir er mwyn diogelu'r arwynebedd rhag cwyr gannwyll a llwch arogldarthau sy'n llosgi ar yr allor. Weithiau mae gan y lliain hwn lun o bentagl neu symbolau ysbrydol eraill.[2]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search