Anatomeg ddynol

Anatomeg ddynol
Enghraifft o'r canlynolcangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Rhan omammal anatomy, meddygaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Defyddir yr ysgerbwd yn aml gan fyfyrwyr meddygol wrth astudio'r corff dynol.

Yr astudiaeth wyddonol o forffoleg y corff (ffurf, siap a golwg organau a ffurfiannau eraill) y corff dynol ydy anatomeg ddynol (hefyd anatomi dynol). Mae dwy ran iddi:

  • anatomeg topograffig: yr astudiaeth o strwythurau y gellir eu gweld gyda'r llygad noeth;
  • anatomeg microscopig: yr astudiaeth o strwythurau'r corff gyda chymorth microsgop ac offer tebyg.

Mae anatomeg dynol hefyd yn un o'r dair astudiaeth sy'n ffurfio meddygaeth; y ddwy ran arall ydy: anatomeg ffisiolegol (sut mae'r corff yn gweithio) ac yn symud a biocemeg, sef yr astudiaeth gemegol o'r corff.

Mae gan y corff dynol systemau biolegol (gweler isod) sy'n cynnwys organau wedi'u gwneud o feinwe, sydd yn ei dro yn cynnwys celloedd a meinwe cysylltiol.

Mae'r asudiaeth o'r corff dynol wedi carlamu ymlaen oherwydd technoleg yn ystod y ganrif ddiwethaf, gan ymestyn hyd bywyd dyn.

Darlun cynnar gan Leonardo da Vinci.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search