Annibyniaeth i Gymru

Gorymdaith annibyniaeth Caerdydd, Mai 2019
Gorymdaith annibyniaeth Caernarfon, Gorffennaf 2019
Eddie Butler yn annerch y dorf yng Ngorymdaith annibyniaeth Merthyr, Medi 2019
4ydd Gorymdaith; Wrecsam; Gorffennaf 2022
Gorymdaith annibyniaeth Caerdydd, Hydref 2022
Fideo o ddron o Orymdaith Abertawe, Mai 2023, lle roedd dros 7,000 yn bresennol

Annibyniaeth i Gymru yw'r mudiad gwleidyddol sydd am weld Cymru'n wladwriaeth sofran, yn annibynnol o'r Deyrnas Unedig.

Gorchfygwyd Cymru yn ystod y 13g gan Edward I o Loegr yn dilyn lladd Llywelyn ein Llyw Olaf (Tywysog Cymru). Cyflwynodd Edward yr ordinhad brenhinol, Statud Rhuddlan, yn 1284, gan beri i Gymru golli ei hannibyniaeth de facto, ac ymgorfforwyd y dywysogaeth Gymreig frodorol i Deyrnas Lloegr.[1] Adferodd Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, annibyniaeth i Gymru c. 1400–10, ond yn y diwedd llwyddodd Harri IV o Loegr i adennill rheolaeth ar Gymru.

Cyflwynodd Harri VIII o Loegr Ddeddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru rhwng 1535 a 1542, disodlwyd Cyfraith Hywel han gyfraith Lloegr, ac integreiddiwyd y dywysogaeth Gymreig a'r Gororau yn rhan o Loegr.[2][3] Diffiniodd Deddf Cymru a Berwick "Lloegr" i gynnwys Cymru yn 1746, ond diddymwyd hyn yn rhannol gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967 gyda'r term " Cymru a Lloegr ".[4]

Daeth y mudiad annibyniaeth Cymreig modern i'r amlwg yn ystod canol y 19g, yn ogystal â mudiad dros "reolaeth gartref " ("home rule"). Ers 1999, mae Cymru wedi cael rhywfaint o bŵer deddfwriaethol fel rhan o ddatganoli Cymreig gan senedd y DU, a chyfraith gyfoes Gymreig o fewn system gyfreithiol (neu 'gyfreithfa') Lloegr. Ar hyn o bryd, mae’r pleidiau gwleidyddol Plaid Cymru,[5] Propel, Gwlad, a Phlaid Werdd Cymru yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, fel y mae'r grŵp ymgyrchu amhleidiol YesCymru.[6] Mae cefnogaeth i annibyniaeth wedi cynyddu o 14% yn 2014 i’w gefnogaeth uchaf o 46% yn Ebrill 2021 wrth eithrio'r bleidlais 'ddim yn gwybod'.[7][8] Canfu arolwg barn YouGov yn Ionawr 2021 fod 47% o bobl Cymru yn gwrthwynebu cynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru o fewn y pum mlynedd nesaf gyda 31% yn cefnogi.[9]

  1. Jones, Francis (1969). The Princes and Principality of Wales (yn Saesneg). University of Wales P. ISBN 978-0-900768-20-0.
  2. "BBC Wales - History - Themes - The 1536 Act of Union". BBC. Cyrchwyd 2022-02-09.
  3. "Laws in Wales Act 1535 (repealed 21.12.1993)".
  4. "The Welsh language Act of 1967". BBC (yn Saesneg). 2012-07-26. Cyrchwyd 2022-02-09.
  5. "Aims//Our History". Plaid Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-03. Cyrchwyd 2016-03-22.
  6. Pitt, Ellie (6 November 2020). "Thousands join YesCymru and say "Westminster isn't working for Wales"". ITV News (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 November 2020.
  7. Henry, Graham (2014-04-19). "Wales says no to Scottish independence: our exclusive YouGov poll". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-16.
  8. "Savanta ComRes Wales Voting Intention – 29 April 2021" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-12-04. Cyrchwyd 2023-01-09.
  9. "YouGov / Sunday Times Survey Results" (PDF).

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search