Archdderwydd

Archdderwydd
Archdderwydd Eisteddfod 1910
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth, teitl corfforaethol Edit this on Wikidata
Matharweinydd mudiad, prif swyddog Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Yr Archdderwydd yw llywydd Gorsedd y Beirdd, ac sydd felly yn llywyddu ar brif ddefodau Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Er mai Iolo Morgannwg oedd y cyntaf i lywyddu'r Orsedd pan y'i sefydlwyd, ei olynydd, David Griffiths, dan yr enw barddol "Clwydfardd" oedd yn cyntaf i'w adnabod gyda'r teitl swyddogol.[1]

Ers 1932, dim ond enillwyr blaenorol o'r Goron neu'r Gadair sy'n gymwys i fod yn Archdderwydd. Erbyn cychwyn yr 21G, ehangwyd hyn i gynnwys enillwyr y Fedal Ryddiaith a'r cyntaf i'w ethol dan y rheol yma oedd Robyn Llŷn (Robyn Léwis) (2002–05).[1] Christine James, a ddaeth yn Archdderwydd yn 2013, oedd y fenyw gyntaf a'r dysgwr Cymraeg cyntaf (h.y. unigolyn lle nad oedd y Gymraeg yn famiaith) i ddal y teitl.[2]

Ers yr Ail Ryfel Byd, dim ond un Archdderwydd sydd wedi gwasanaethau mwy nag un cyfnod tair blynedd. Etholwyd Albert Evans-Jones ("Cynan") yn 1950 ac eto yn 1963, ac fe'i ystyrir yn ddylanwad rhyddfrydol ar yr ŵyl; derbyniodd yn gyhoeddus nad oedd gan yr eisteddfod fodern gysylltiad uniongyrchol â derwyddiaeth hynafol. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1969 am ei wasanaeth i ddiwylliant Cymreig, yr unig Archdderwydd i dderbyn y teitl.[3]

Yn dilyn gohirio Eisteddfod Genedlaethol 2020 oherwydd Pandemig COVID-19, penderfynwyd ymestyn cyfnod yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd. Newidiwyd y rheolau hefyd er mwyn pennu tymor pob Archdderwydd bellach yn ymestyn dros dair Eisteddfod yn hytrach na thros dair blynedd.[4]

Yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam ar 27 Ebrill 2024, trosglwyddwyd yr awenau i Mererid Hopwood, dim ond yr ail fenyw erioed i fod yn archdderwydd.

  1. 1.0 1.1 "The Archdruid". National Museum Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2016. Cyrchwyd 2 September 2016.
  2. "Eisteddfod names Christine James first woman archdruid". BBC News. 23 Mehefin 2012. Cyrchwyd 8 Ebrill 2016.
  3. "Pwllheli to honour former National Eisteddfod Archdruid Cynan". Daily Post. 22 Ionawr 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2016. Cyrchwyd 8 Ebrill 2016.
  4. Ymestyn cyfnod Archdderwydd ar ôl gohirio'r Eisteddfod , BBC Cymru Fyw, 7 Awst 2020.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search