Baner Llydaw

Baner Llydaw

Mae Baner Llydaw, y Gwyn a Du (yn Llydaweg: Gwenn-ha-du) yn cynnwys naw stribedyn llorweddol gwyn a du, a smotiau ermin yn y gornel chwith uchaf. Fe'i crewyd ym 1923 gan Morvan Marchal, gan ddefnyddio fel ysbrydoliaeth arfbais dinas Roazhon a baneri'r Unol Daleithiau a Gwlad Groeg. Mae'r stribedi llorweddol yn cynrychioli'r naw esgobaeth draddodiadol yn Llydaw, y stribedi du yn cynrychioli'r rhai Ffrangeg eu hiaith (Dol, Naoned, Roazhon, Sant-Maloù a Sant-Brieg a'r pedwar gwyn yn cynrychioli'r pedair esgobaeth Lydaweg eu hiaith (Leon, Treger, Kernev a Gwened). Cafodd ei derbyn yn eang fel symbol Llydaw yn ystod y 1960au.

Er i'r faner gyfoes gael ei chreu gan Marchal yn 1923 bu trwy gydol yr 1920au ac 1930au i'w gweld yn ymddangos mewn addasiadau gwahanol - weithiau gyda'r ermyn heb eu gweld yn llawn, weithiau gyda'r ermyn nid yn y canton ond yn hytrach ar hyd holl ochr y mast. Ymddengys i'r consensws ffurfio'n derfynnol ar ei ffurf bresennol erbyn 1938.[1]

Mae Gwenn ha Du hefyd yn enw ar gasgliad o farddoniaeth Lydaweg a droswyd i'r Gymraeg.

  1. "Mikael Bodlore- Penlaez : kant vloaz ar Gwenn ha du e FIL 2023". TV Bro Kemperle. 24 Awst 2023.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search