Bethan Wyn Jones | |
---|---|
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Awdur Cymreig yw Bethan Wyn Jones.
Magwyd Bethan Wyn Jones yn y Talwrn, Sir Fôn, a derbyniodd ei haddysg gynradd yn ysgol y pentref. Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd mewn Sŵoleg. Mae'n cyfrannu sgyrsiau am wahanol agweddau ar fyd natur yn wythnosol i Galwad Cynnar ar Radio Cymru, yn ogystal ag erthyglau i'r Herald Cymraeg a chylchgronau eraill. Cyhoeddodd nifer o lyfrau poblogaidd gan gynnwys Bwrw Blwyddyn, Blodau Gwyllt, Natur y Flwyddyn, cyfres Doctor Dail a Llyfr Natur Iolo ar y cyd ag Iolo Williams.[1]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search