Brech wen

Brech wen
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus firol, clefyd y croen, Poxviridae infectious disease, eradicated disease, clefyd, amgylchiadau marwolaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben1978 Edit this on Wikidata
SymptomauBlinder meddwl, brech, cur pen, poen yn yr abdomen, chwydu, pothell, pimple edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Plentyn yn dioddef o'r frech wen

Haint a achosir gan ddau feirws, Variola major a Variola minor, yw'r frech wen (Saesneg: Smallpox). Variola major sy'n achosi'r math mwyaf difrifol, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra bod llai na 1% o'r rhai a effeithir gan Variola minor yn marw.[1]

Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC. Yn ystod y 18g, credir fod y frech wen wedi lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd ei effaith yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant yn marw.[2] Erbyn yr 20g roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr 20g. Ar 9 Rhagfyr 1979, cyhoeddodd WHO fod y frech wen wedi ei dileu; yr unig haint i gael ei dileu yn llwyr hyd yma.

  1. Ryan KJ, Ray CG (editors) (2004). Sherris Medical Microbiology (arg. 4th). McGraw Hill. tt. 525–8. ISBN 0-8385-8529-9.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  2. Barquet N, Domingo P (15 October 1997). "Smallpox: the triumph over the most terrible of the ministers of death". Ann. Intern. Med. 127 (8 Pt 1): 635–42. http://www.annals.org/cgi/content/full/127/8_Part_1/635.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search