Brexit

Brexit
Enghraifft o'r canlynoldatgysylltiad oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Dyddiad31 Ionawr 2020 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gair cyfansawdd (portmanteau), yw Brexit (Cymreigiad: Brecsit)[1] o ddau air Saesneg "British exit"). Fe'i defnyddiwyd i ddisgrifio ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd (UE) am 23:00 GMT ar 31 Ionawr 2020 (00:00 CET). Y DU yw’r unig aelod-wladwriaeth sydd wedi gadael yr UE, a hynny ar ôl 47 mlynedd o fod yn rhan o’r undeb—yr UE a’i rhagflaenydd y Cymunedau Ewropeaidd (CE)—ers 1 Ionawr 1973. Yn dilyn Brexit, nid oes gan gyfraith yr UE na Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd hawliau, bellach, dros gyfreithiau gwledydd Prydain, ac eithrio mewn meysydd dethol mewn perthynas â Gogledd Iwerddon. Mae Brecsit yn dilyn refferendwm ar y pwnc, sef Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016.

Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn cadw cyfraith berthnasol yr UE fel cyfraith ddomestig, y gall y DU bellach ei diwygio neu ei diddymu. O dan delerau’r cytundeb ymadael â Brexit, mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd mewn perthynas â nwyddau, ac i fod yn aelod de facto o Undeb Tollau’r UE.

Y Deyrnas Gyfunol mewn oren; yr Undeb Ewropeaidd (27 o aelod-wladwriaethau) mewn glas.

Mae’r Undeb Ewropeaidd a’i sefydliadau wedi datblygu’n raddol ers eu sefydlu ac yn ystod y 47 mlynedd o aelodaeth y DU; tyfodd yr UE i fod o bwysigrwydd economaidd a gwleidyddol sylweddol i’r DU. Drwy gydol cyfnod aelodaeth Prydain roedd grwpiau Ewrosgeptaidd wedi bodoli yn Lloegr, yn gwrthwynebu agweddau o'r Undeb a'i ragflaenwyr, ac yn beio'r UE am faterion fel mewnlifiad o "estronwyr" yn y DU. Cynhaliodd llywodraeth Llafur Harold Wilson refferendwm ar barhau'n aelod o’r GE ym 1975, lle dewisodd pleidleiswyr aros o fewn y bloc gyda 67.2 y cant o’r gyfran o’r bleidlais, ond ni chynhaliwyd unrhyw refferenda pellach wrth i Integreiddio Ewropeaidd barhau. Daeth yn “agosach fyth” drwy Gytundeb Maastricht a Chytundeb Lisbon a ddilynodd wrth ei sodlau. Fel rhan o addewid ymgyrch i ennill pleidleisiau oddi wrth Ewroscgeptaidd,[2] addawodd y prif weinidog Ceidwadol David Cameron gynnal refferendwm pe bai ei lywodraeth yn cael ei hail-ethol. Cadwodd at ei air a chynhaliodd ei lywodraeth (a oedd o blaid yr UE) refferendwm ar aelodaeth barhaus o’r UE yn 2016, lle dewisodd pleidleiswyr Llogr (gan fwyaf) adael yr UE gyda 51.9 y cant o’r gyfran o’r bleidlais. Arweiniodd hyn at ymddiswyddiad David Cameron, ac fe'i ddisodlwyd gan Theresa May, a phedair blynedd o drafodaethau gyda’r UE ar delerau ymadael ac ar gysylltiadau yn y dyfodol. Pleidleisiodd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn erbyn gadael, a phrin oedd y mwyafrif yng Nghymru dros adael.

Roedd y broses drafod yn heriol yn wleidyddol ac yn ymrannol iawn o fewn y DU, gydag un cytundeb yn cael ei wrthod gan senedd Prydain, risg o ymadawiad o’r UE heb gytundeb ymadael neu fargen fasnach ("Brexit heb gytundeb"), etholiadau cyffredinol a gynhaliwyd yn 2017 a 2019, a dau brif weinidog newydd yn y cyfnod hwnnw, y ddau yn Geidwyr. O dan lywodraeth fwyafrifol Boris Johnson, gadawodd y DU yr UE ar 31 Ionawr 2020 ond parhaodd i gymryd rhan mewn llawer o sefydliadau’r UE (gan gynnwys y farchnad sengl a’r undeb tollau) yn ystod cyfnod pontio o 1 flwyddyn er mwyn pontio a sicrhau masnach ddi-dor am gyfnod hirach. Parhaodd trafodaethau’r cytundeb masnach hyd ddiwedd y cyfnod pontio a drefnwyd, a llofnodwyd Cytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE-DU ar 30 Rhagfyr 2020.

Bydd effeithiau Brexit yn cael eu pennu’n rhannol gan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE-DU, a ddaeth i rym yn answyddogol o 1 Ionawr 2021, ac a ddaeth i rym yn ffurfiol ar 1 Mai 2021.[3] Y consensws eang ymhlith economegwyr yw ei fod yn debygol o niweidio economi’r DU a lleihau ei hincwm gwirioneddol y pen yn y tymor hir, a bod y refferendwm ei hun wedi niweidio’r economi'n drychinebus.[4][5][6][7][8] Mae’n debygol o gynhyrchu dirywiad mawr mewn mewnfudo o wledydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) i’r DU, ac mae’n gosod heriau i addysg uwch ac ymchwil academaidd yng Nghymru a gwledydd eraill Prydain.[9]

  1. Hall, Damien (11 August 2017). "'Breksit' or 'bregzit'? The question that divides a nation". The Conversation (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2019. Cyrchwyd 22 March 2019.
  2. Vicki Young (23 January 2013). "David Cameron to pledge referendum on the UK and Europe". BBC News. Cyrchwyd 30 August 2021.
  3. "EU-UK trade and cooperation agreement: Council adopts decision on conclusion". www.consilium.europa.eu. 29 April 2021.
  4. Baldwin, Richard (31 July 2016). "Brexit Beckons: Thinking ahead by leading economists". VoxEU. Centre for Economic Policy Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 November 2017. Cyrchwyd 22 November 2017. On 23 June 2016, 52% of British voters decided that being the first country to leave the EU was a price worth paying for 'taking back control', despite advice from economists clearly showing that Brexit would make the UK 'permanently poorer' (HM Treasury 2016). The extent of agreement among economists on the costs of Brexit was extraordinary: forecast after forecast supported similar conclusions (which have so far proved accurate in the aftermath of the Brexit vote).
  5. Giles, Chris; Tetlow, Gemma (7 January 2017). "Most economists still pessimistic about effects of Brexit". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 July 2019. Cyrchwyd 22 November 2017.
  6. Giles, Chris (16 April 2017). "Brexit will damage UK standards of living, say economists". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 July 2019. Cyrchwyd 22 November 2017. Unlike the short-term effects of Brexit, which have been better than most had predicted, most economists say the ultimate impact of leaving the EU still appears likely to be more negative than positive. But the one thing almost all agree upon is that no one will know how big the effects are for some time.
  7. "Brexit to Hit Jobs, Wealth and Output for Years to Come, Economists Say". Bloomberg L.P. 22 February 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 July 2019. Cyrchwyd 22 November 2017. The U.K. economy may be paying for Brexit for a long time to come ... It won't mean Armageddon, but the broad consensus among economists—whose predictions about the initial fallout were largely too pessimistic—is for a prolonged effect that will ultimately diminish output, jobs and wealth to some degree.
  8. Johnson, Paul; Mitchell, Ian (1 March 2017). "The Brexit vote, economics, and economic policy". Oxford Review of Economic Policy 33 (suppl_1): S12–S21. doi:10.1093/oxrep/grx017. ISSN 0266-903X.
  9. Mayhew, Ken (1 March 2017). "UK higher education and Brexit". Oxford Review of Economic Policy 33 (suppl_1): S155–S161. doi:10.1093/oxrep/grx012. ISSN 0266-903X.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search