Brwydr Coed Llathen

Brwydr Coed Llathen
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1257 Edit this on Wikidata
LleoliadLlandeilo Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
RhanbarthSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata

Mae Brwydr Coed Llathen a Brwydr y Cymerau yn ddwy frwydr a ymladdwyd ar yr un diwrnod (2 Mehefin 1257), lle cafodd Byddin Cymru ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Cânt eu cyfrif ymhlith y brwydrau pwysicaf a ymladdwyd yn hanes Cymru, gyda'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, yn ei anterth. Mae rhai haneswyr yn eu hysyried yn un frwydr, mewn dwy ran: y cyntaf yng Nghoed Llathen, plwyf Llangathen - tua 5 km i'r gorllewin o Landeilo, a'r ail yn 'y Cymerau'. Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr, ond ceir ychydig o ddadl am union leoliad 'Cymerau' a ymladdwyd pan oedd byddin Lloegr ar ffo. Lladdwyd 3,000 o Saeson a llond dwrn o Gymry.

Cofnodwyd yr hanes yn yr Annales Cambriae ac ym Mrut y Tywysogion (Peniarth MS 20 a Llyfr Coch Hergest). Disgrifir y frwydr hefyd yn Saesneg gan Mathew Paris yn ei Chronica Majora, lle nodir fod y golled i'r Saeson yn un enfawr, ac mewn nifer o lawysgrifau eraill, yn bennaf ym mynachlogydd Osney a Tewkesbury.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search