Brythoneg | ||
---|---|---|
Siaredir yn | Prydain yn ystod yr Oes Haearn, de o Foryd Forth | |
Difodiant iaith | Datblygodd i Hen Gymraeg, Cymbrieg, Cernyweg a Llydaweg erbyn 600 Cyfnod Cyffredin | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd
| |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | Dim | |
ISO 639-2 | cel | |
ISO 639-3 | Dim | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Y Celtiaid |
---|
![]() |
Llwythau eraill |
Rhanbarthau hynafol |
Mytholeg Oidelig |
Ieithoedd Celtiaid |
Prif fudiadau gwleidyddol |
Hen iaith Gelteg P a siaradwyd ym Mhrydain oedd Brythoneg (a elwir hefyd yn Frythoneg gynnar neu Frythoneg gyffredin). Roedd hi'n iaith a siaradwyd gan y bobl o'r enw'r Brythoniaid.
Math o Gelteg Ynysig ydyw Brythoneg a darddodd o'r Gelteg, iaith gysefin (h.y. tarddiad) ddamcaniaethol a ddechreuodd ddargyfeirio i mewn i dafodieithoedd neu ieithoedd gwahanol yn ystod hanner cyntaf y mileniwm cyntaf.[1][2][3][4] Erbyn y 6ed ganrif OC, rhannodd Brythoneg i mewn i bedair iaith wahanol: Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg, a Chymbrieg. Gelwir yr ieithoedd hyn yn ieithoedd Brythonaidd gyda'i gilydd. Mae tipyn o dystiolaeth i ddweud efallai roedd gan Bicteg gysylltiadau gyda Brythoneg a gallai efallai hefyd fod yn bumed gangen.[5][6][7]
Mae tystiolaeth o'r Gymraeg yn dangos dylanwad o'r Lladin ar Frythoneg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, yn enwedig mewn termau sy'n gysylltiedig â'r eglwys Gristnogol a Christnogaeth, sydd bron i gyd yn ddeilliadau Lladin.[8] Disodlwyd y Frythoneg yn yr Alban a'r de o Foryd Forth gan Aeleg yr Alban a'r Saesneg (a ddatblygodd fan hyn i mewn i Sgoteg), ond goroesodd hi hyd at y Canol Oesoedd yn Ne'r Alban a Cumbria — gweler Cymbrieg. Disodlodd y Frythoneg ar raddfa weddol gyson gan y Saesneg ledled Lloegr; yn y gogledd, diflannodd y Gymbrieg erbyn y 13eg canrif ac, yn y de, yr oedd Cernyweg yn iaith farw erbyn y 19eg canrif, ond bu ceisiadau i'w hadfywio.[9] Model hanesyddol O'Rahilly yn awgrymu efallai'r oedd iaith Frythonaidd yn Iwerddon cyn i'r ieithoedd Goidelig ymddangos, ond nid ydyw'r farn hon yn boblogaidd ymhlith ymchwilwyr eraill.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search