C.P.D. Dinas Caerdydd

Dinas Caerdydd
Logo Dinas Caerdydd
Enw llawn Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
Llysenw(au) Yr Adar Gleision
Sefydlwyd 1899 (fel Riverside A.F.C.)
Maes Stadiwm Dinas Caerdydd
Perchennog Baner Maleisia Vincent Tan
Cadeirydd Baner Cyprus Mehmet Dalman
Rheolwr Baner Twrci Erol Bulut
Cynghrair Pencampwriaeth Lloegr
2023–2024 12fed o 24 (Pencampwriaeth Lloegr)
Gwefan Gwefan y clwb

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd (Saesneg: Cardiff City Football Club) yn glwb pêl-droed proffesiynol sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ac yn un o'r pum clwb o Gymru sy'n chwarae yng nghyfundrefn pêl-droed Lloegr.[1] Mae'n cystadlu yn y Bencampwriaeth, ail haen cynghrair pêl-droed Lloegr. Fe'i sefydlwyd ym 1899 dan yr enw Riverside A.F.C. gan newid i Cardiff City yn 1908. Ymunodd â Chynghrair Pêl-droed De Lloegr ym 1910 cyn symud i Gynghrair Pêl-droed Lloegr yn 1920. Mae'r tîm wedi treulio 17 tymor yn haen uchaf pêl-droed Lloegr; y cyfnod hwyaf oedd rhwng 1921 a 1929. Y cyfnod diweddaraf yn yr haen uchaf oedd tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2018–19.

Caerdydd yw'r unig dîm o'r tu allan i Loegr i ennill Cwpan FA Lloegr, gan wneud hynny yn 1927. Maent hefyd wedi cyrraedd tair rownd derfynol yng nghystadlaethau Lloegr: Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr 1925 (colli i Sheffield United), Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr 2008 (colli i Portsmouth) a Rownd Derfynol Cwpan Cynghrair Pêl-droed 2012 (colli i Lerpwl). Maent wedi ennill Cwpan Cymru ar 22 achlysur, sy’n golygu mai nhw yw’r ail dîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth ar ôl Wrecsam.

Ac eithrio cyfnod byr ar ddechrau'r ganrif hon, glas a gwyn yw lliwiau cartref y clwb ers 1908, a dyna sy'n rhoi cyfrif am y llysenw 'Yr Adar Gleision'. Cae parhaol cyntaf y clwb oedd Parc Ninian a agorwyd yn 1910; parhaodd i gael ei ddefnyddio am 99 mlynedd cyn i'r clwb symud i Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2009. Mae Caerdydd yn gystadleuwyr hirsefydlog i glwb pêldroed Dinas Abertawe ac mae'r ddau yn chwarae darbi De Cymru yn erbyn ei gilydd. Gêm ddarbi bwysig arall yw honno yn erbyn Bristol City, a elwir yn ddarbi Glannau Hafren (Severnside). Deiliad y record ar gyfer nifer ymddangosiadau i'r clwb yw Billy Hardy, a wnaeth 590 ymddangosiad dros gyfnod o ugain mlynedd, a’r sgoriwr uchaf yn hanes y clwb yw Len Davies gyda 179 gôl.

  1. Y pedwar arall yw Abertawe, Casnewydd, Wrecsam a Merthyr Tudful.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search