Calciferol

Calciferol
Enghraifft o'r canlynolgroup of chemical entities Edit this on Wikidata
Mathfitamin Edit this on Wikidata
Rhan ovitamin D binding, cellular response to vitamin D, response to vitamin D, vitamin D metabolic process, vitamin D biosynthetic process, vitamin D catabolic process Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cholecalciferol (D3)
Ergocalciferol (D2)

Gair arall, mwy adnabyddus am calciferol ydy fitamin D. Grŵp o prohormonau yw calciferol all hydoddi mewn olew. Mae dau brif fath:

Mae fitamin D3 yn cael ei greu yn y croen sydd yn llygad yr haul - pelydrau uwchfioled, yn benodol. Yr un ydy'r enw 'calciferol' â'r gair Cymraeg calch; yn wir, pwrpas calciferol ydy rheoli faint o galch a ffosfforws sydd yn y gwaed drwy reoli faint ohonynt sy'n cael eu hamsugno o'r coluddion. Mae'n hanfodol hefyd i greu esgyrn iach.

Nowedd arall o galciferol ydy ei bwysigrwydd parthed â'r system imiwnedd, drwy hyrwyddo gweithgaredd phagocytosis drwy gadw tiwmors draw. Mae diffyg fitamin D yn gallu rhoi'r llech ('rickets' yn Saesneg) i blant, sef esgyrn rhy feddal.

Mae ymchwil diweddar yn dangos fod cysylltiad rhwng rhy ychydig (neu ormod) o galciferol a chancer. Gall gynorthwyo i ymladd yn erbyn cancr, ond yn eironig ddigon gall gormod o haul greu canser.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search