Camlas Suez

Camlas Suez
Mathcamlas i longau Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSuez Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol17 Tachwedd 1869 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaY Môr Coch, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Suez Edit this on Wikidata
GwladYr Aifft Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.705°N 32.3442°E Edit this on Wikidata
Hyd193.3 cilometr Edit this on Wikidata
Rheolir ganAwdurdodau Camlas Suez Edit this on Wikidata
Map

Camlas enfawr yn yr Aifft yw Camlas Suez (Arabeg:قناة السويس: Qanâ el Suweis) neu'r Camlas Sŵes yng Nghymraeg.[1][2][3] Mae hi rhwng Port Said (Bûr Sa'îd) ar arfordir y Môr Canoldir a Suez (El Suweis) ar arfordir y Môr Coch ac yn 163 km o hyd.

Gellir mynd ar long o Ewrop i Asia ar y gamlas hon heb orfod mynd o gwmpas Affrica a Penrhyn Gobaith Da. Cyn adeiladu'r gamlas, cludai rhai pobl nwyddau i'r porthladd ar long ac yna dros yr anialwch rhwng y Môr Canoldir a'r Môr Coch ar gefn camel ac wedyn dros y môr eto ar long, ond roedd y rhan fwyaf o'r nwyddau yn mynd o amgylch cyfandir Affrica.

Adeiladwyd camlas Suez rhwng 25 Ebrill, 1859 a 1869 gan gwmni Ffrengig o'r enw Compagnie Universelle du Canal Maritime de Suez dan reolaeth Ferdinand de Lesseps. Roedd y cynllun gan Alois Negrelli, peiriannydd o Awstria ac roedd yr Aifft a Ffrainc yn berchen ar y gamlas. Aeth y llong gyntaf trwyddi ar 17 Chwefror, 1867 ac ar 17 Tachwedd, 1869 cynhaliwyd seremoni agor swyddogol y gamlas. Dywed rhai fod Giuseppe Verdi wedi ysgrifennu'i opera enwog Aida ar gyfer y seremoni hon, ond ni all hynny fod yn wir gan iddi gael ei pherfformio yn Cairo ym 1871 am y tro cyntaf.

Amcangyfrifir i tua 1.5 miliwn o Eifftwyr weithio ar adeiladu'r camlas hon a thua 125,000 ohonyn nhw wedi marw yn ystod y gwaith adeiladu, y mwyafrif ohonynt oherwydd colera.[4] Some sources estimate that over 30,000 people were working on the canal at any given period, that more than 1.5 million people from various countries were employed,[5][6] Yn sgîl llawer o ddyledion ariannol yr Aifft, bu'n rhaid iddynt werthu eu rhan o'r gamlas i'r Deyrnas Unedig. Oherwydd hyn, bu lluoedd y DU yn amddiffyn y camlas ers 1882.[7]

Serch hynny, cipiodd yr Aifft y gamlas yn ôl ar 26 Gorffennaf, 1956 ac o ganlyniad roedd byddin y DU, Ffrainc ac Israel wedi ymosod. Achosodd hyn Rhyfel Suez a barodd am wythnos. O ganlyniad, penderfynodd y Cenhedloedd Unedig mai'r Aifft oedd pia'r gamlas.

O ganlyniad y Rhyfel Chwech Diwrnod ym Mehefin 1967 roedd y gamlas ar gau tan 5 Mehefin, 1975 a chyn 1974 roedd lluoedd cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig ar Gorynys Sinai.[8]

Ar hyn o bryd nid yw'r gamlas mor eang fel y gall llongau sydd yn mynd i gyfeiriadau gwahanol basio ei gilydd, ac eithrio mewn mannau penodol ar hyd y gamlas. Does dim lociau arni, ond mae'n rhy cul i danceri olew enfawr basio. Fodd bynnag, ceir cynlluniau i ehangu'r gamlas.

Teithia tua 15,000 o longau ar hyd y gamlas, tua 14% o deithiau llongau'r byd. Mae taith y gamlas Suez yn cymryd rhwng 11 ac 16 o oriau.

  1. https://www.casgliadywerin.cymru/story/473077
  2. https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/documents/Souvenir%20Brochure%20RJLR%20story.pdf
  3. https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/documents/theheatofthebattle.pdf
  4. Headrick, Daniel R. (1981). The Tools of Empire : Technology and European Imperialism in the Nineteenth Century. Oxford University Press. tt. 151–153. ISBN 0-19-502831-7. OCLC 905456588.
  5. Wilson 1939.
  6. "Le canal de Suez – ARTE". Arte.tv. 13 Awst 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Awst 2011. Cyrchwyd 24 Awst 2011.
  7. "SCA Overview". Suez Canal Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2019. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2019.
  8. "Suez Crisis". History.com. A&E Television Networks. 2009-11-09. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mawrth 2019. Cyrchwyd 2019-04-17.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search