Cariad

Y Gwanwyn (1873), darlun olew gan Pierre Auguste Cot
Y symbol fyd-eang am gariad.

Emosiwn cryf a deimlir mewn perthynas â pherson arall ydy cariad. Mae'n rhinwedd sydd mewn athroniaeth yn cynrychioli daioni, trugaredd a gofal yr hil ddynol. Ceir cariad mam at ei phlentyn a cheir cariad mab at ferch neu gariad person at ei gyd-ddyn a sawl math arall o gariad. Yn y cyd-destun crefyddol, mae cariad yn sail ein bodolaeth ("Duw cariad yw"), ac yn sail i bob Gorchymyn dwyfol: "Câr dy gymydog fel ti dy hun." I'r bardd, mae cariad yn deimlad rhamantus, fel arfer, sy'n atyniad cryf na ellir ei dorri.

Yn y Saesneg, fodd bynnag, defnyddir y gair yn llawer mwy rhydd gan gyfeirio at bethau materol neu anifeiliaid yn ogystal ag at berson e.e. "I love my cat", "I loved that meal".

Pan fo'r cariad yn ysgogi chwant cnawdol yn y person, defnyddir y term "serch" ac ystyrir y gwahaniaeth hwn yn bwysig gan rai megis Saunders Lewis yn ei ddramâu e.e. Siwan (drama).


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search