Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Kipchak–Nogai |
Yn cynnwys | Tafodiaith Gasach y Gorllewin, Tafodiaith Gasach y Gogledd-Orllewin, Tafodiaith Gasach y De |
Enw brodorol | қазақ тілі |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | kk |
cod ISO 639-2 | kaz |
cod ISO 639-3 | kaz |
Gwladwriaeth | Casachstan, Rwsia, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mongolia, Wsbecistan, Tyrcmenistan, yr Almaen, Cirgistan, Twrci, Iran, Aserbaijan, Wcráin |
System ysgrifennu | Yr wyddor Gyrilig, Yr wyddor Arabeg, yr wyddor Ladin, Kazakh Braille |
Corff rheoleiddio | Ministry of Culture and Information of Kazakhstan, Ministry of Culture and Sports of Kazakhstan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith Dyrcaidd yw Casacheg a siaredir yn frodorol gan y Casachiaid, sydd yn byw yng Nghasachstan a mewn lleiafrifoedd yn rhanbarth Xinjiang, Tsieina, ac yn Wsbecistan, Mongolia, ac Affganistan. Mae Casacheg yn perthyn i gangen ogledd-orllewinol yr ieithoedd Tyrcaidd a elwir ieithoedd Kipchak, ac yn debyg felly i Girgiseg, Karakalpak, a Nogay.
Ysgrifennwyd yr iaith Gasacheg drwy gyfrwng yr wyddor Arabeg hyd at yr 20g. Yn sgil sefydlu'r Undeb Sofietaidd, defnyddiwyd llythrennau Lladin yn y cyfnod 1929–40 cyn newid i'r wyddor Gyrilig. Yn 2017 datganodd llywodraeth Casachstan y byddai'r iaith yn dychwelyd at lythrennau Lladin a chyda diwygiadau sillafu.[3]
Mae'r dafodiaith Kipchak-Wsbec yn debyg iawn i Gasacheg, a fe'i ystyrir yn aml yn dafodiaith Gasacheg er bod ei siaradwyr yn defnyddio'r iaith lenyddol Wsbeceg.[4]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search