Cefnfor yr Arctig

Cefnfor yr Arctig
Cefnfor yr Arctig, gyda ffiniau fel y'u hamlinellir gan y Sefydliad Hydrograffig Rhyngwladol (IHO), gan gynnwys Bae Hudson (mae rhan ohono i'r de o lledred 57 ° N, oddi ar y map).
Mathcefnfor Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlgogledd Edit this on Wikidata
LL-Q9288 (heb)-YaronSh-אוקיינוס הקרח הצפוני.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor yr Iwerydd, Cefnfor y Byd Edit this on Wikidata
Sirdyfroedd rhyngwladol Edit this on Wikidata
Arwynebedd14,056,000 ±1 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau90°N 0.000000°E Edit this on Wikidata
Map
Cefnforoedd y Ddaear
(Cefnfor y Byd)
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Un o safleoedd archaeolegol y Thule
Un o gychod torri iâ Rwsia: golygfa o hofrennydd

Y cefnfor sydd o gwmpas Pegwn y Gogledd yw Cefnfor yr Arctig. Mae e wedi ei lleoli rhwng Norwy, Rwsia, Alaska (rhan o Unol Daleithiau America), Canada, Yr Ynys Las a Gwlad yr Iâ. Dyfnder mwyaf y cefnfor hwn yw 5,220 m, a maint ei arwyneb yw tua 12.26 miliwn km², sy'n ei wneud y lleiaf o'r 5 cefnfor ac ef hefyd yw'r oeraf[1].

Y moroedd sydd yn perthyn i'r Cefnfor Arctig yw Môr Norwy rhwng Norwy a'r Ynys Las, Môr Barents i'r gorllewin o Novaya Zemlya (ynys fawr sy'n perthyn i Rwsia), Môr Kara i'r dwyrain o'r ynys honno, Môr Laptev i'r gorllewin o Ynysoedd Novosibirskiye, a Môr Dwyrain Siberia oddi ar arfordir dwyrain Rwsia. Yng ngogledd America mae Môr Beaufort yn perthyn iddo.

Ynysoedd mwyaf Cefnfor yr Arctig yw: Spitsbergen (Norwy), Tir Franz Josef, Novaya Zemlya, Severnaya Zemlya, Ynysoedd Novosibirskiye ac Ynys Wrangel (i gyd yn perthyn i Rwsia), yn ogystal ag Ynys Victoria, Ynysoedd Parry ac Ynys Ellesmere (y tair ohonyn nhw yn perthyn i Ganada).

Mae Cefnfor yr Arctig yn cysylltu i Gefnfor Iwerydd rhwng cyfandir Ewrop a'r Ynys Las a hefyd trwy dyfrffyrdd niferus rhwng ynysoedd gogledd Canada sy'n cysylltu â Chulfor Davis rhwng Yr Ynys Las a Chanada. Ceir cysylltiad arall i'r Cefnfor Tawel trwy Culfor Bering. Mae'r Sefydliad Hydrograffig Rhyngwladol (IHO) yn ei gydnabod fel cefnfor, er bod rhai eigionegwyr yn ei alw'n Fôr Canoldir yr Arctig. Fe'i disgrifiwyd hefyd fel "aber Cefnfor yr Iwerydd".[2][3]

Mae pacrew pegynol arno yn y gogledd ac mae rhew yn drifftio bron ar ei hyd.

Mae iâ-môr yn ei orchuddio bron trwy gydol y flwyddyn a bron yn llwyr yn y gaeaf ac mae tymheredd arwyneb a halltedd Cefnfor yr Arctig yn amrywio'n dymhorol wrth i'r gorchudd iâ doddi a rhewi.[4] Ei halltedd yw'r isaf ar gyfartaledd o'r pum cefnfor mawr, oherwydd anweddiad isel, mewnlif dŵr croyw trwm o afonydd a nentydd, a chysylltiad ac all-lif cyfyngedig â dyfroedd cefnforol cyfagos â halwynau uwch.

Cred rhai fod yr iâ'n crebachu yn yr haf i hanner ei faint.[1] Defnyddia Canolfan Data Eira a Rhew Cenedlaethol yr Unol Daleithiau (NSIDC) ddata lloeren i ddarparu cofnod dyddiol o orchudd iâ môr yr Arctig a chyfradd y toddi o'i gymharu â chyfnod cyfartalog a blynyddoedd penodol blaenorol, gan ddangos dirywiad parhaus ym maint iâ'r môr.[5] Ym mis Medi 2012, cyrhaeddodd maint iâ'r Arctig isafswm newydd. O'i gymharu â'r graddau cyfartalog (1979-2000), roedd iâ'r môr wedi lleihau 49%.[6]

  1. 1.0 1.1 Pidwirny, Michael (2006). "Introduction to the Oceans". www.physicalgeography.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Rhagfyr 2006. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2006.
  2. Tomczak, Matthias; Godfrey, J. Stuart (2003). Regional Oceanography: an Introduction (arg. 2nd). Delhi: Daya Publishing House. ISBN 978-81-7035-306-5. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mehefin 2007. Cyrchwyd 22 Ebrill 2006.
  3. "'Arctic Ocean' – Encyclopædia Britannica". Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2012. As an approximation, the Arctic Ocean Mai be regarded as an estuary of the Atlantic Ocean.
  4. Some Thoughts on the Freezing and Melting of Sea Ice and Their Effects on the Ocean K. Aagaard and R. A. Woodgate, Polar Science Center, Applied Physics Laboratory University of Washington, Ionawr 2001. Retrieved 7 Rhagfyr 2006.
  5. "Arctic Sea Ice News and Analysis | Sea ice data updated daily with one-day lag" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-01.
  6. "Understanding the Arctic sea ice: Polar Portal". polarportal.dk. Cyrchwyd 2020-09-01.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search