Cerbyd trydan heibrid

Cerbyd trydan heibrid
Mathhybrid vehicle, electric vehicle Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Toyota Prius: y car heibrid a werthodd fwyaf - dros 4 miliwn uned hyd at Ionawr 2017.[1]

Math o gerbyd heibrid sy'n defnyddio trydan a thanwydd arall (petrol neu ddisl fel arfer) yw'r cerbyd trydan heibrid (hybrid electric vehicle (neu HEV). Ceir ynddo beiriant tanio mewnol (sef yr injan) a modur trydan (neu fotor) i'w yrru. Gellir dweud fod y cerbyd trydan heibrid (neu 'hybrid') yn pontio rhwng cerbydau sy'n defnyddio'r hen danwydd petroliwm a thanwydd glanach, amgen, sef trydan. Oherwydd fod batris yn ddrud ac yn aneffeithiol (yn 2015), roedd cerbydau trydan-yn-unig hefyd yn ddrud ac yn gynnil iawn yn y milltiroedd y gellid eu teithio gydag un gwefriad llawn - oddeutu 70 milltir. Cyfaddawd, neu gam tuag at gar trydan pur, felly, ydy'r cerbyd heibrid trydan.[1]

Gellir dewis gyrru'r cerbyd gyda'r naill danwydd neu'r llall: pan ddewisir defnyddio'r motor trydan i'w yrru, mae'n sydyn a pharod o ran ei drorym (torque) a cheir cyflymiad esmwyth iawn. Ymhlith y gwahanol fathau o gerbydau trydan mae: ceir trydan cell danwydd, ceir celloedd solar, ceir trydan batri a cherbydau trydan heibrid. Yn ogystal â cheir trydan heibrid, ceir hefyd faniau, bysiau a mathau eraill o gerbydau heibrid.

Mae'r math yma o gerbyd yn effeithiol yn bennaf oherwydd ei frecio atgynhyrchiol (regenerative braking) sy'n system frecio sydd hefyd yn cynyrchu trydan. Drwy'r system hon mae'r egni cinetig (neu symudol) yn cael ei droi egni trydanol yn hytrach na ffrithiant pan fo'r egni cinetig yn troi'n wres gwastraffus fel a wneir gyda'r cerbyd cnfensiynol. Mae ambell gerbyd heibrid hefyd yn defnyddio ei beiriant tanio mewnol i gynhyrchu trydan er mwyn ail-wefru'r batris neu bweru'r motor.

  1. 1.0 1.1 "Worldwide Sales of Toyota Hybrids Surpass 10 Million Units" (Press release). Toyota City, Japan: Toyota. 2017-01-14. http://newsroom.toyota.eu/global-sales-of-toyota-hybrids-reach-10-million/. Adalwyd 2017-01-15. "This latest milestone of 10 million units was achieved just nine months after total sales reached 9 million units at the end of April 2016."

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search