Chwyldro'r Aifft (2011)

Chwyldro'r Aifft
Enghraifft o'r canlynolprotest Edit this on Wikidata
Lladdwyd1,146 Edit this on Wikidata
Rhan oY Gwanwyn Arabaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd25 Ionawr 2011 Edit this on Wikidata
Daeth i ben11 Chwefror 2011 Edit this on Wikidata
LleoliadYr Aifft Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethYr Aifft Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Protstiadau yn yr Aifft ar 25 Ionawr 2011
Rhai o'r protestwyr yn Sgwâr Tahrir, Cairo

Protestiadau ar strydoedd Cairo a dinasoedd eraill yn yr Aifft ydy Chwyldro'r Aifft, 2011 (neu'r Chwyldro Lotws), a'r mwyaf a welwyd ers "Terfysgoedd y Bara", 1977. Yr ysbrydoliaeth i'r protestiadau hyn, mae'n debyg, oedd y gwrthryfel a gafwyd yn Tiwnisia yn Rhagfyr 2010.[1]

Cychwynodd yr anhrefn ar 25 Ionawr 2011 pan drefnodd "Mudiad Ieuenctid y 6ed o Ebrill" brotest yn erbyn Arlywydd Mubarak.[2] Dewisiwyd y dyddiad (Dydd Santes Dwynwen, yng Nghymru) gan mai dyma Ddiwrnod Cenedlaethol yr Heddlu yn yr Aifft. Ymosodwyd ar orsafoedd yr heddlu ac o fewn dyddiau diflannodd yr heddlu drwy'r wlad gyfan, heddlu a fu gynt mor bwerus a threisgar. Canolbwynt y protestiadau oedd Sgwâr Tahrir, Cairo.

  1. Erthygl 'Inspired by Tunisia, Egypt's protests appear unprecedented' a gyhoeddwyd gan 'The Christian Science Monitor' ar 25 Ionawr 2011. (Saesneg)
  2. Erthygl 'Violent Clashes Mark Protests Against Mubarak’s Rule' yn y New York Times, 25 Ionawr 2011. (Saesneg)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search