![]() | |
Gweriniaeth Kyrgyz Кыргыз Республикасы (Cirgiseg) Кыргызская Республика (Rwsieg) | |
![]() | |
Arwyddair | Gwerddon ar y Ffordd y Sidan Ysblennydd ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gweriniaeth, gwlad ![]() |
Prifddinas | Bishkek ![]() |
Poblogaeth | 6,694,200 ![]() |
Sefydlwyd | 31 Awst 1991 (Datganiad o Annibyniaeth oddi wrth USSR) |
Anthem | Anthem Genedlaethol Gweriniaeth Kyrgyz ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Sooronbay Jeenbekov, Sapar Isakov, Muhammetkaliy Abulgaziyev, Kubatbek Boronov, Sadyr Zhaparov, Artjom Nowikow, Ulukbek Maripov, Ulukbek Maripov, Akylbek Japarov, Adylbek Kasymaliev ![]() |
Cylchfa amser | UTC+06:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Cirgiseg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Soviet Central Asia ![]() |
Gwlad | Cirgistan ![]() |
Arwynebedd | 199,951 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Casachstan, Tajicistan, Wsbecistan ![]() |
Cyfesurynnau | 41°N 75°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabinet Gweinidogion Cirgistan ![]() |
Corff deddfwriaethol | Y Cyngor Goruchaf ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Cirgistan ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Sadyr Zhaparov ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Cirgistan ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Sooronbay Jeenbekov, Sapar Isakov, Muhammetkaliy Abulgaziyev, Kubatbek Boronov, Sadyr Zhaparov, Artjom Nowikow, Ulukbek Maripov, Ulukbek Maripov, Akylbek Japarov, Adylbek Kasymaliev ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $8,741 million, $10,931 million ![]() |
Arian | Kyrgyz som ![]() |
Cyfartaledd plant | 3.2 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.692 ![]() |
Gwlad dirgaeedig yn nwyrain Canolbarth Asia, sy'n gorwedd ym mynyddoedd Tian Shan a Pamir, yw Cirgistan, yn swyddogol Gweriniaeth Cirgistan,[1] Bishkek yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf. Mae Cyrgistan yn ffinio â Kazakhstan i'r gogledd, Wsbecistan i'r gorllewin, Tajicistan i'r de, a Tsieina i'r dwyrain a'r de-ddwyrain.[2][3][4] Cirgisiaid ethnig yw'r mwyafrif o dros 7 miliwn o bobl y wlad, ac yn ychydig o Wsbeciaid a Rwsiaid.[5] Cyn 1991 roedd yn rhan o'r hen Undeb Sofietaidd. Bishkek yw'r brifddinas.
Dros y milenia, cafodd Cyrgistan nifer o ddiwylliannau ac ymerodraethau gwahanol. Er ei bod wedi'i hynysu'n ddaearyddol gan dir mynyddig, mae Cyrgistan wedi bod ar groesffordd sawl gwareiddiad gwych gan ei bod ar Ffordd y Sidan ynghyd â llwybrau masnachol eraill. Casgliad o lwythi oedd y wlad ar y cychwyn, fel bron pob gwlad arall, ond fe'i meddiannwyd ar adegau gan dra-arglwyddiaeth fwy, er enghraifft y nomadiaid Tyrcig, sy'n olrhain eu hachau i lawer o wladwrieithau Tyrcaidd. Fe'i sefydlwyd gyntaf fel y Kyrgyz Khagan Yenisei. Yn ddiweddarach, yn y 13g, gorchfygwyd Cyrgistan gan Ymerodraeth y Mongol gan sawl llinach Mongolaidd; adenillodd annibyniaeth, ond fe'i goresgynwyd yn ddiweddarach gan y Dzungar Khanat, hefyd o darddiad Mongolaidd.
Ar ôl hil-laddiad y Dzhungariaid, daeth Kyrgyz a Kipchaks yn rhan o Kokand Khanat ac yn 1876, daeth Cyrgistan yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Ym 1936, ffurfiwyd Gweriniaeth Sofietaidd Kirghiz a fwriadwyd yn weriniaeth gyfansoddol o fewn yr Undeb Sofietaidd.
Yn dilyn diwygiadau democrataidd Mikhail Gorbachev yn yr Undeb Sofietaidd, yn 1990 etholwyd yr ymgeisydd o blaid annibyniaeth Askar Akayev yn arlywydd. Ar 31 Awst 1991, datganodd Cyrgistan annibyniaeth o'r Undeb Sofietaidd a sefydlwyd llywodraeth ddemocrataidd. Enillodd Cyrgistan sofraniaeth fel cenedl-wladwriaeth ar ôl i'r Undeb Sofietaidd chwalu ym 1991.
Yn dilyn annibyniaeth, roedd Cyrgistan yn swyddogol yn weriniaeth arlywyddol unedol. Wedi'r Chwyldro Tiwlip daeth yn weriniaeth seneddol unedol; fodd bynnag, dros amser datblygodd arlywyddiaeth gweithredol a chafodd y wlad ei llywodraethu fel gweriniaeth lled-arlywyddol cyn dychwelyd i system arlywyddol yn 2021. Drwy gydol ei bodolaeth bu gwrthdaro ethnig,[6][7] a gwelwyd gwrthryfeloedd,[8] ac yn debyg i Lywodraeth y DU gwelwyd trafferthion economaidd,[9][10] llywodraethau crog a thros dro[11] a gwrthdaro gwleidyddol.[12]
Mae Cyrgistan yn aelod o Gymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol, yr Undeb Economaidd Ewrasiaidd, y Sefydliad Cytundeb Cyd-Ddiogelwch, Sefydliad Cydweithredu Shanghai, y Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd, Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewropeaidd, Sefydliad Gwladwriaethau Twrciaidd, y gymuned Türksoy yn y Cenhedloedd Unedig. Mae'n wlad sy'n datblygu ac yn safle 117 yn y Mynegai Datblygiad Dynol, a hi yw'r ail wlad dlotaf yng Nghanolbarth Asia ar ôl Tajicistan gyfagos. Mae economi trosiannol y wlad yn ddibynnol iawn ar aur, glo ac wraniwm.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search