Croen

Croen
Enghraifft o'r canlynolmath o organ, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathorgan anifail, cynnyrch anifeiliaid, endid anatomegol arbennig, organ synhwyro Edit this on Wikidata
Cysylltir gydabyrsa isgroenol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdermis, epidermis Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Croen (llu. crwyn) yw'r haen o feinwe allanol sydd fel arfer yn feddal, hyblyg ac sy'n gorchuddio corff anifail asgwrn cefn, gyda thair prif swyddogaeth: amddiffyn, rheoleiddio a theimlo.

Mae gan orchuddion anifeiliaid eraill, megis allsgerbwd yr arthropod, strwythur a chyfansoddiad cemegol gwahanol iawn. Y gair Lladin am groen yw cutis. Mewn mamaliaid, mae'r croen yn organ o'r system bilynnol sy'n cynnwys sawl haen o feinwe echgroenol (ectodermal) ac mae'n gwarchod y cyhyrau, yr esgyrn, y gewynnau a'r organau mewnol gwaelodol. Mae croen o natur wahanol yn bodoli mewn amffibiaid, ymlusgiaid ac adar.[1] Chwaraea'r croen (gan gynnwys meinweoedd croenol ac isgroenol) ran hanfodol yn ffurfiant, strwythur, a swyddogaeth rannau allsgerbydol megis: cyrn gwartheg a rhinos, osiconau jiráffs, osteoderm yr armadilo, ac asgwrn meddal y pidyn a'r clitoris.[2]

Mae gan bob mamal rywfaint o flew ar eu crwyn, hyd yn oed mamaliaid morol fel morfilod, dolffiniaid, a llamhidyddion sy'n ymddangos yn ddi-flew. Y croen yw'r arwyneb a ddaw i gyswllt â'r amgylchedd a dyma'r amddiffyniad cyntaf y corff rhag ffactorau allanol. Er enghraifft, mae'r croen yn chwarae rhan allweddol wrth amddiffyn y corff rhag pathogenau [3] a cholli gormod o ddŵr.[4] Ei swyddogaethau eraill yw inswleiddio, rheoleiddio tymheredd, teimlad, a chynhyrchu fitamin D. Gall croen sydd wedi'i ddifrodi'n ddifrifol wella trwy ffurfio craith. Mae hwn weithiau'n o liw ychydig yn wahanol ac yn rhychiog. Mae trwch y croen hefyd yn amrywio o leoliad i leoliad ar organeb. Mewn bodau dynol, er enghraifft, y croen sydd wedi'i leoli o dan y llygaid ac o amgylch yr amrannau yw'r croen teneuaf ar y corff ac yn ddim ond 0.5 mm o drwch ac mae'n un o'r meysydd cyntaf i ddangos arwyddion o heneiddio. Y croen ar gledrau a gwadnau'r traed yw'r croen mwyaf trwchus ar y corff a gall fod cymaint a 4 mm o drwch. Mae cyflymder ac ansawdd iachâu clwyfau yn y croen yn cael ei hybu gan estrogen.[5][6][7]

Blew trwchus yw ffwr.[8] Yn bennaf, mae ffwr yn inswleiddio'r corff a gall hefyd weithredu fel nodwedd rywiol eilaidd neu fel cuddliw. Ar rai anifeiliaid fel yr eliffant, mae'r croen yn galed ac yn drwchus iawn a gellir ei brosesu i greu lledr. Mae gan ymlusgiaid a'r rhan fwyaf o bysgod gennau amddiffynnol caled ar eu crwyn, i'w hamddiffyn, ac mae gan adar blu caled, pob un wedi'i wneud o beta-ceratinau. Nid yw croen amffibiaid yn amddiffyniad cryf, yn enwedig o ran symudiad cemegau trwy'r croen, ac yn aml mae'n caniatau osmosis. Er enghraifft, byddai broga sy'n eistedd mewn hydoddiant o anesthetig yn syrthio i gysgu'n gyflym wrth i'r cemegyn dryledu trwy ei groen. Mae croen amffibiaid yn chwarae rhan allweddol mewn goroesiad bob dydd a'u gallu i fanteisio a llawer o gynefinoedd ac amodau ecolegol gwahanol.[9]

Ar 11 Ionawr 2024, adroddodd biolegwyr fod y croen hynaf y gwyddys amdano wedi'i ddarganfod: ffosil tua 289 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac o bosibl croen ymlusgiad hynafol.[10][11]

  1. Alibardi, Lorenzo (15 August 2003). "Adaptation to the land: The skin of reptiles in comparison to that of amphibians and endotherm amniotes". Journal of Experimental Zoology 298B (1): 12–41. Bibcode 2003JEZB..298...12A. doi:10.1002/jez.b.24. PMID 12949767.
  2. Nasoori, Alireza (August 2020). "Formation, structure, and function of extra‐skeletal bones in mammals". Biological Reviews 95 (4): 986–1019. doi:10.1111/brv.12597. PMID 32338826.
  3. "The skin: an indispensable barrier". Exp Dermatol 17 (12): 1063–1072. 2008. doi:10.1111/j.1600-0625.2008.00786.x. PMID 19043850.
  4. Madison, Kathi C. (August 2003). "Barrier Function of the Skin: 'La Raison d'Être' of the Epidermis". Journal of Investigative Dermatology 121 (2): 231–241. doi:10.1046/j.1523-1747.2003.12359.x. PMID 12880413. https://archive.org/details/sim_journal-of-investigative-dermatology_2003-08_121_2/page/231.
  5. Thornton, M. J. (December 2002). "The biological actions of estrogens on skin: Estrogens and skin". Experimental Dermatology 11 (6): 487–502. doi:10.1034/j.1600-0625.2002.110601.x. PMID 12473056.
  6. Ashcroft, Gillian S.; Greenwell-Wild, Teresa; Horan, Michael A.; Wahl, Sharon M.; Ferguson, Mark W.J. (October 1999). "Topical Estrogen Accelerates Cutaneous Wound Healing in Aged Humans Associated with an Altered Inflammatory Response". The American Journal of Pathology 155 (4): 1137–1146. doi:10.1016/S0002-9440(10)65217-0. PMC 1867002. PMID 10514397. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1867002.
  7. Desiree May Oh, MD, Tania J. Phillips, MD (2006). "Sex Hormones and Wound Healing". Wounds. http://www.medscape.com/viewarticle/524313_3. Adalwyd 2013-09-23.
  8. "fur". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 March 2017. Cyrchwyd 4 March 2017.
  9. Clarke, B. T. (August 1997). "The natural history of amphibian skin secretions, their normal functioning and potential medical applications". Biological Reviews of the Cambridge Philosophical Society 72 (3): 365–379. doi:10.1017/s0006323197005045. PMID 9336100.
  10. Golembiewski, Kate (11 January 2024). "Scaly Fossil Is the Oldest-Known Piece of Skin - The specimen came from a 289 million-year-old fossil deposit and might offer clues to how skin evolved". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 January 2024. Cyrchwyd 12 January 2024.
  11. Mooney ,Ethan D. (11 January 2024). "Paleozoic cave system preserves oldest-known evidence of amniote skin". Current Biology. arXiv:al. et al.. doi:10.1016/j.cub.2023.12.008. https://www.cell.com/current-biology/fulltext/S0960-9822(23)01663-9. Adalwyd 12 January 2024.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search