Cwpan Rygbi'r Byd

Cwpan Rygbi'r Byd
Cwpan Webb Ellis
Chwaraeon Rygbi'r Undeb
Sefydlwyd 1987
Motto A World in Union
Nifer o Dimau 20 (16 rhwng 1987 a 1995)
Pencampwyr presennol Seland Newydd
Gwefan Swyddogol http://www.rugbyworldcup.com

Cwpan Rygbi'r Byd yw prif gystadleuaeth rhyngwladol rygbi'r undeb. Cynhelir twrnament bob pedair blynedd ers y bencampwriaeth gyntaf yn 1987 yn Awstralia a Seland Newydd. Trefnir y gystadleuaeth gan gorff llywodraethol y gamp yn rhyngwladol, World Rugby.

Y pencampwyr presennol yw Seland Newydd enillodd y gystadleuaeth yn 2015 yn erbyn Awstralia. Mae un tîm wedi codi'r tlws 3 gwaith - Seland Newydd, a mae dau tîm wedi codi'r tlws ddwywaith; Awstralia a De Affrica.

Mae'r enillwyr yn derbyn Cwpan Webb Ellis sy'n dwyn enw'r disgybl o Ysgol Rugby lwyddodd, yn ôl y chwedl, i ddyfeisio'r gamp wrth "bigo'r bêl i fyny a rhedeg gydag o".


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search